© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Cydweithio I Sicrhau Campau Ychwanegol Gan Y Ddraig Yn Y Fro


CYDWEITHIO I SICRHAU CAMPAU YCHWANEGOL GAN Y DDRAIG YN Y FRO


Yn fuan iawn bydd y bobl ieuainc sy’n mynychu clybiau tu allan i’r ysgol ym Mro Morgannwg yn cael cyfle i fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon ychwanegol, wedi i Glybiau Plant Cymru ymuno â thîm Campau’r Ddraig Cyngor Bro Morgannwg.

Rhoddodd ugain aelod o staff o Glybiau Plant Cymru hwb i’w gwybodaeth chwaraeon wedi derbyn hyfforddiant Campau’r Ddraig yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn Y Barri a nawr maent yn gwbl barod i ychwanegu athletau at yr amrywiaeth o weithgareddau a gynigir i blant lleol.

Roedd gan y sefydliad, sy’n helpu i sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau tu allan i’r ysgol ledled Cymru, fag o offer golff Campau’r Ddraig eisoes i’w rannu gyda chlybiau’r Fro, a nawr mae wedi derbyn bag athletau fel bod y plant lleol yn cael rhoi cynnig ar fod yr Usain Bolt neu’r Jessica Ennis nesaf.

Meddai Kevin Morgan o Glybiau Plant Cymru: "Mae hwn yn gyfle da i glybiau unigol gymryd rhan yn rhaglen Campau’r Ddraig. Mae clybiau’r Fro’n derbyn bag offer yr ydym wedi’i dderbyn gan dîm Campau’r Ddraig yn wythnosol ac yna maent yn ei drosglwyddo ymlaen i glwb arall. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r plant yn y clybiau gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon nad ydynt wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen efallai."

Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig, wedi’i chyllido gan y Loteri Genedlaethol. Y nod yw cynnig i blant saith i 11 oed gyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus gydag offer o faint addas. Mae’n canolbwyntio ar wyth camp ffocws – pêl droed, rygbi, pêl rwyd, hoci, golff, athletau, tenis a chriced. Mae’r cynllun blaengar hefyd yn ceisio recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i gyflwyno Campau’r Ddraig, yn union fel y staff o Glybiau Plant Cymru.

Tra oedd y staff yn cael eu hyfforddi y tu mewn i’r ganolfan chwaraeon, roedd mwy na 50 o blant o’r clybiau tu allan i ysgol lleol eisoes yn mwynhau chwaraeon ar y cae astroturf, fel yr eglura cynorthwy-ydd Campau’r Ddraig y Fro, Pete Hardwick: "Fe wnaethom ddarparu amrywiaeth o weithgareddau fel bod y bechgyn a’r merched yn cael cyfle i flasu’r hwyl sydd i’w gael drwy gymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig. Fe gawsant amser gwych i gyd ac rwy’n gobeithio y byddant yn dal ati i fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon am flynyddoedd lawer i ddod. Hoffwn ddiolch i’r gwirfoddolwyr a fu’n helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant mor arbennig, yn cynnwys aelodau tîm criced dan 14 oed Y Fro.

Cewch wybodaeth bellach am Gampau’r Ddraig yn y Fro drwy ffonio 01446 704820 neu drwy fynd ar-lein yn www.valeofglamorgan.gov.uk/dragonsports

 


04/09/2009

 

Click here to Find your Local Co-Ordinator

Kick Start Your Kids

Help your children enjoy sport.

» You can make a difference!

Click here to make a suggestion to improve the Dragon Sport website
Competition

World Cup Competition

» Click Here