Croeso i Gampau'r Ddraig

Y Newyddion Diweddaraf



Storiau Ymarfer Da

 


Cyfle i ieuenctid y Fro wirioni ar Gwpan y Byd gyda chwrs pêl droed newydd
Gall plant ym Mro Morgannwg edrych ymlaen at Gwpan y Byd yr haf hwn drwy gofrestru ar gyfer cwrs pêl droed cyfandirol ei naws a gynhelir ar Gaeau Chwarae Buttrills yn Y Barri.

 


Caitlin yn mwynhau ei diwrnod mawr ym Mhencampwriaethau Pêl Rwyd Ewrop
Merch ddeng mlwydd oed, Caitlin Hooper o Ysgol Gynradd Queen Street ym Mlaenau Gwent, oedd enillydd lwcus cystadleuaeth ddiweddar Campau’r Ddraig ar gyfer tymor y gwanwyn.

 

 


Dechrau chwilio am hoff brosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri
Mae’r seren deledu, Sally Lindsay, yn galw ar bobl Cymru i enwebu eu hoff brosiect a ariennir gan y Loteri yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2010.

 


Cydweithio I Sicrhau Campau Ychwanegol Gan Y Ddraig Yn Y Fro
Yn fuan iawn bydd y bobl ieuainc sy’n mynychu clybiau tu allan i’r ysgol ym Mro Morgannwg yn cael cyfle i fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon ychwanegol, wedi i Glybiau Plant Cymru ymuno â thîm Campau’r Ddraig Cyngor Bro Morgannwg.

 


Y Ferch Fwyaf Lwcus yng Nghymru!
Cefnogwraig rygbi ifanc o Sir Benfro yw’r enillydd lwcus diweddaraf i dderbyn gwobr chwaraeon gan raglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru.

 


Medrusrwydd Murray’n Hudo Ieuenctid Ar Y Cwrt
Mae medrusrwydd Murray’n cael dylanwad ar y genedl ac mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Pontyclun yn cael cyfle i fwynhau chwarae tenis gyda thwrnament Wimbledon iddyn nhw eu hunain.

 


Cyffro'r Lludw'n Llosgi'n Llachar Yng Ngogledd Cymru
Mae cyffro’r Lludw’n llosgi ymhellach i ffwrdd o lawer na Chaerdydd wrth i ddisgyblion o chwe ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru ennill cyfle bythgofiadwy ac unigryw i fynd ar daith i wylio’r gêm brawf agoriadol yn Stadiwm SWALEC.

 


Woosnam yn cefnogi ieuenctid y ddraig
Wrth i Gasnewydd edrych ymlaen at groesawu Cwpan Ryder mewn ychydig dros 12 mis, mae un o enwogion y byd golff yng Nghymru, Ian Woosnam, wedi bod yn dangos ei gefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o olffwyr sy’n camu ar y cwrs.

 


MWY NAG ERIOED O BLANT Y DE ORLLEWIN YN CYMRYD RHAN MEWN CHWARAEON
Mae mwy nag erioed o’r blaen o blant yn Ne Orllewin y wlad yn cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol, diolch i fentrau a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru (CChC).

 


YSGOLION CYNRADD SIR Y FFLINT YN GWNEUD YN DDA MEWN CYSTADLEUAETH ATHLETAU DAN DO DERFYNOL
Bu ysgolion cynradd Sir y Fflint yn rheoli yn ystod Cystadleuaeth Derfynol Campau’r Ddraig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a gynhaliwyd yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ddydd Gwener 30 Ionawr.

 


IEUENCTID CYMRU’N BAROD AM RYGBI CAMPAU’R DDRAIG
Wrth i sgwad rygbi Cymru ruo ymlaen yn llwyddiannus i amddiffyn eu teitl yng Ngornest y Chwe Gwlad, mae plant ysgolion cynradd ledled Cymru’n paratoi i efelychu arwyr y crysau coch mewn cystadlaethau Campau’r Ddraig.

 

 


Nicky Robinson yn Lysgennad Campau’r Ddraig’
Wedi sicrhau lle yn rowndiau gogynderfynol Cwpan Heineken gyda pherfformiad rhagorol yn erbyn Caerloyw y penwythnos diwethaf, mae rhif 10 Gleision Caerdydd, Nicky Robinson, yn camu ymlaen i annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

Cystadlu

Cystadleuaeth Cwpan y Byd

» Cliciwch yma

Annog eich plant i gymryd rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

» Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Awgrymiadau Gwefan