dragon-sport





Welcome to dragon sport   email a friend change language
English > Newyddion > Y Newyddion Diweddaraf > Surpreis Mawr wrth i Seren Nofio Alw Mewn ar Cerys
  news_dd_palmerston1.jpg

23.08.2006
SYPREIS MAWR WRTH I SEREN NOFIO ALW I MEWN I ANRHYDEDDU CERYS

Enillydd medal aur o’r Barri a seren lleol y byd nofio, David Davies, oedd yr ‘ymwelydd dirgel’ yn Ysgol Gynradd Palmerston yn ddiweddar.           
 
Roedd y llanc 21 oed wedi dod yno i wneud cyflwyniad arbennig i ddisgybl wyth oed, Cerys, a enillodd gystadleuaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru (ar y cyd â’r Gemau Cymanwlad a gynhaliwyd ym Melbourne yn gynharach eleni).
 
Meddai siaradwr ar ran yr ysgol: “Roedd y disgyblion wrth eu boddau’n cael cyfarch y nofiwr, sydd eisoes wedi ennill medalau yng Ngemau’r Gymanwlad – aur yr oedd yn falch o gael ei ddangos i’r plant — ac yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd.
 
“Ymatebodd David drwy siarad am ei drefn hyfforddi brysur, gan ateb nifer o gwestiynau a bodloni sawl cais am ei lofnod.”
 
Roedd y gystadleuaeth yn herio nifer o ysgolion yng Nghymru ac yn Awstralia i wneud llun yn cyfleu naws Gemau’r Gymanwlad a chan fod Cerys wedi dod yn fuddugol, cafodd becyn arbennig o nwyddau cysylltiedig â Melbourne 2006.
 
Argraffwyd yr arlunwaith unigryw gan y cystadleuwyr buddugol – roedd cynllun Ceri mewn gwyrdd a glas ac yn dangos dwy law yn dod at ei gilydd uwch ben y ddaear, i ddangos sut mae gwahanol ddiwylliannau ethnig yn dod at ei gilydd — ar gefn baner Cymru a oedd yn cael ei gario gan Dîm Cymru yn ystod seremoni agoriadol y Gemau.                               
 
Meddai Cydlynydd Cynorthwyol Campau’r Ddraig yn y Fro, Hanna Guise: “Roedd yn braf iawn cael trefnu’r sypreis yma ar gyfer y plant, sy’n gefnogwyr brwd i’r seren nofio lleol.  Mae David yn fodel rôl rhagorol ac yn esiampl o beth mae gwaith caled ac ymroddiad yn gallu ei gyflawni.”                                     
 
Wrth ddiolch i David am roi o’i amser i ymweld â’i gefnogwyr ieuainc, ychwanegodd Hanna: “Rwy’n siwr y bydd plant Palmerston yn cofio’r ymwelydd dirgel arbennig hwn am byth.”
 
Mae disgyblion Palmerston yn rhan o gynllun Campau’r Ddraig y Cyngor Chwaraeon, sy’n ceisio cael mwy o blant ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol.

 

Yn Ol   Top