Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon? Dechreuais chwarae yn yr Ysgol Gynradd, Ysgol-y-Drindod yn Wrecsam. Roedd gennym athrawes ragorol o'r enw Mrs Mitchell oedd yn rhoi cyfle i bawb weld yn beth oeddent yn rhagori. Roedd yn rhoi llawer o'i hamser rhydd i ni, ac yn rhannu ei phrofiad .... a'i hamynedd! Fy athrawes AG nesaf yn Ysgol Bryn Alyn oedd Mrs Myra Redmond sydd bellach yn gydlynydd Campau'r Ddraig. Roedd y ddwy ysgol yn rhoi cefnogaeth gref i chwaraeon.
Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn? Rhoddais gynnig ar bob camp yn yr ysgol, o bel rwyd i bel droed. Yn yr ysgol gynradd fi oedd yr eneth gyntaf i chwarae yn nhim criced yr ysgol diolch i Mr Jones y Pennaeth oedd yn frwd iawn ynghylch chwaraeon pan oedd yn iau. Yn ystod fy mlynyddoedd iau disgleiriais mewn pel rwyd gan chwarae i'r ysgol, i glwb ac i'r sir a chefais le yn sgwad Dan 16 Cymru. Yna, yn bymtheg oed, dechreuais ymddiddori mewn athletau. Cynrychiolais fy ysgol ac yna symud ymlaen i lefel sirol ac yna i gynrychioli Cymru. Yn 16 oed roeddwn yn cynrychioli Prydain Fawr yn y naid uchel a'r heptathlon.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon? Rwy'n gwir fwynhau cyfeillgarwch a chefnogaeth y cyfranogwyr eraill - nid yn unig mewn athletau ond yn y meysydd eraill hefyd. Mae rhywun yn barod i'ch helpu ac i'ch cynghori o hyd. Rwy'n gobeithio cynghori eraill hefyd - mae chwaraeon wedi rhoi cymaint i mi a nawr rwyf am roi rhywbeth yn ol.
Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach? Mae angen llawer iawn o waith caled a phenderfyniad - rwy'n cael pum sesiwn ymarfer yr wythnos - rhedeg, pwysau, nofio a gwaith technegol. Rwy'n cymryd rhan mewn saith disgyblaeth - clwydi 100m, 200m, naid uchel, naid hir, siot, jafelin ac 800m. Rydym yn ymarfer ym mhob tywydd, hyd yn oed mewn eira. Weithiau does gen i ddim awydd ymarfer ond mae'n rhaid i chi edrych y tu hwnt i sesiwn ymarfer. Os nad wyf yn ymarfer yn galed yn ystod y gaeaf, fydda i ddim yn heini ac ni fyddaf yn gallu cystadlu ar fy ngorau y tymor canlynol - felly rwy'n dal fy mhen yn uchel ac yn brwydro 'mlaen gan obeithio medi'r llafur yn yr haf!
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon? Fy rhieni a'm hathrawon oedd y dylanwad mwyaf yn sicr. Fe roesant gymaint o amser ac ymdrech. Mae fy rhieni wedi aberthu llawer, ac maen nhw'n dal i wneud hynny - yn fy nghyrru fi ar hyd a lled y wlad ar gyfer cystadlaethau, fy nghadw i fynd a bod yna i mi ar y dyddiau da a drwg. Maent wedi fy annog i ddal ati. |