
02.09.2005
DISGYBLION CAIA'N WYNEBU HER CHWARAEON.
Mae plant sy’n mynychu’r ysgolion ym Mharc Caia wedi bod yn cymryd rhan mewn her weithgarwch corfforol a osodwyd gan Ddraig o Gampau’r Ddraig. Fel ymateb i fenter Her Iechyd Cymru Cynulliad Cymru, trefnodd Prosiect Byw’n Iach Parc Caia, Cynllun Ysgolion Iach Wrecsam, Stadiwm Chwaraeon Queensway, Campau’r Ddraig a Datblygiad Chwaraeon yr her i sicrhau cynnydd yn y gweithgarwch corfforol y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo.
Cydweithiodd pob dosbarth yn ysgolion Hafod y Wern, Gwenfro a St Anne’s er mwyn cwblhau pum her a oedd yn cynnwys bownsio cyflym, taflu targed, taflu wrth eistedd, neidio wrth sefyll a sgipio.
[Yn y llun gwelir y plant athletig a fu’n cymryd rhan yn her weithgarwch Campau’r Ddraig ym Mharc Caia]
Dyfarnwyd gwobrau i’r dosbarth uchaf ei farciau, i’r unigolyn gyda’r marciau uchaf a dyfarniad sbortsmonaeth i bob dosbarth.
Meddai Jonathan Miller, y Swyddog Ysgolion Iach: “Cafodd y plant hwyl yn cymryd rhan yn yr her. Cydweithiodd pob un ohonynt yn dda er mwyn sicrhau sgoriau uchel iawn ac roedd y canlyniad terfynol yn agos tu hwnt.
“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog y plant i ddal ati i gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch corfforol. Derbyniodd bob plentyn a gymerodd ran ‘becyn hwyl’ gyda thystysgrifau, sticeri, bandiau braich a thaflenni gwybodaeth.” |