Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Newyddion > Archif > Cydio mewn ffon i'ch gwneud yn llon
28.09.2005

CYDIO MEWN FFON I'CH GWNEUD YN LLON

Mae plant ieuainc mewn ysgolion ledled Sir Caerfyrddin yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd chwaraeon yn yr ysgol a rhoi cynnig ar hoci.

Mae rhaglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol – yn cynnig cyfle i blant ledled y wlad wella eu sgiliau ffon a dysgu sut i daclo’n fwy effeithiol.

Mae David Griffiths, Hyfforddwr Perfformiad Cenedlaethol Hoci Cymru, yn gobeithio y bydd mwy o fechgyn a genethod yn troi at y gamp, gan fwydo i’r sgwad hyn gyda chyfoeth o dalent ymhen blynyddoedd i ddod.

Meddai: “Mae hoci nid yn unig yn gêm tîm hwyliog i fechgyn a genethod gymryd rhan ynddi gyda’u ffrindiau, ond hefyd yn gyfrwng i wella sgiliau cydsymud ac ystwythder, ac mae’r holl redeg i fyny ac i lawr y cae yn golygu ei bod o fudd i’ch ffitrwydd hefyd.

“Mae’n gamp gyffrous i fod yn rhan ohoni a cheir digon o gyfleoedd i’r chwaraewyr addawol wneud cynnydd.”

Meddai Cydlynydd Campau’r Ddraig, Carl Daniels: “Mae rhoi profiadau positif o chwaraeon i blant o oed cynnar o gymorth i fowldio eu harferion yn y dyfodol ac mae’n eu hannog i fyw bywydau iachach a mwy egnïol.”

Mae Campau’r Ddraig wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ledled Cymru gyda bron i 12,000 o blant yn cymryd rhan mewn sesiynau hoci y llynedd. Yn Sir Gaerfyrddin, mae 29 o ysgolion cynradd ac iau wedi cymryd rhan eisoes mewn sesiynau hoci ers mis Hydref 2000. Yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar saith camp, yn cynnwys athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, rygbi a thenis.

Os ydych chi mewn ysgol gynradd ac eisiau gwybodaeth bellach am Gampau’r Ddraig, cysylltwch â Carl Daniels ar 01554 747513 / 07900 570432 neu ewch am dro i www.campau-draig.co.uk
 

Yn Ol Top