Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Newyddion > Archif > Seren Sbrintio'n Brasgamu i Helpu

07.07.2005

SEREN SBRINTIO'N BRASGAMU I HELPU

Cafwyd gwers AG dra gwahanol heddiw (7 Gorffennaf) wrth i enillydd medal Olympaidd a medal yn y Gymanwlad, Jamie Baulch, gymryd yr awennau ger bron cynulleidfa frwd o ddisgyblion a staff mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd a chyflwyno gwers yr academi athletau.

Yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2006, cymerodd y seren sbrintio egwyl i lansio’r clwb athletau newydd ar ôl ysgol dan faner Campau’r Ddraig.

Yn aelod newydd o gynllun Campau’r Ddraig, a ariennir gan y Loteri, mae Ysgol Gynradd Springwood yn gwneud nifer yr ysgolion sydd wedi ymuno â’r cynllun yng Nghaerdydd yn 70.

Mae’r athrawon wedi derbyn hyfforddiant i arwain sesiynau athletau a byddant yn awr yn dysgu sgiliau sylfaenol i blant, fel rhedeg, taflu a neidio. Mae’r ysgol wedi creu cysylltiadau agos gyda Chlwb Athletau Pantheriaid Pontprennau ac mae’n gobeithio y bydd y disgyblion yn ei ddefnyddio fel llwybr i’w gymryd i adeiladu ar y sgiliau sylfaenol maent yn eu dysgu yn yr ysgol.

Yn dilyn y cyhoeddiad mai Llundain sydd yn cynnal y Gemau Olympaidd 2012, mae’r gobeithion yn uchel bydd holl gyffro y digwyddiad anferthol yma yn tanio diddordeb chwaraeon yn fwyfwy o ieuenctid y genedl. Ac er fod Jamie yn cyrraedd cyfnos ei yrfa ac yn annhebygol o gael cyfle i gystadlu mewn Olympaidd Prydeinig, roedd ar gael i gymell sêr chwaraeon y dyfodol – rhywrai ohonynt bydd digon hen i gystadlu ymhen saith mlynedd – i ymglymu eu hun.

Yn falch o’i gysylltiad â Champau’r Ddraig – rhaglen gan Gyngor Chwaraeon Cymru sy’n ceisio cael mwy o blant ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol – meddai Jamie:

“Mae’n ffantastig bod yn rhan o gynllun sy’n annog mwy o bobl ieuainc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gyda’r ffocws ar hwyl, bydd y plant yn gweld pa mor bleserus yw chwaraeon ac maent yn fwy tebygol o ddal ati wedyn.

“Mae cynnwys rhieni yn hanfodol. Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ac mae fy rhieni wedi bod yn gefnogol iawn erioed. Roedden nhw bob amser yn fy nanfon i bob man roedd angen ac yn fy nghefnogi’n rheolaidd.”

Meddai Cydlynydd Campau’r Ddraig yng Nghaerdydd, Yvonne Hughes:

“Rwy’n hynod falch bod Jamie wedi dangos ei gefnogaeth i Gampau’r Ddraig ac i’r clwb athletau newydd yn Springwood. O weld wynebau’r plant heddiw, gallwch ddweud eu bod yn meddwl ei fod yn fodel rôl ffantastig – nid yn unig i athletau ond i chwaraeon yn gyffredinol. Rwy’n siwr y bydd yn ysbrydoli mwy fyth o blant i fynd i’r clwb a rhoi cynnig arni.”

Yn ei lansiad fis Hydref 2000, dywedwyd mai cynllun Campau’r Ddraig oedd yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed gan chwaraeon Cymru ac mae wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl.

Mae’r fenter wedi denu cefnogaeth gan athletwyr byd-enwog fel Colin Jackson, Tanni Grey-Thompson, Nicole Cooke a Scott Gibbs, wrth i Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru geisio cyflwyno mwy o chwaraeon i blant oed ysgol.

Mae Campau’r Ddraig yn darparu cyfleoedd chwaraeon hanfodol i bobl ieuainc – un o amcanion allweddol Dringo’n Uwch, strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r rhaglen yn mynd o nerth i nerth. Mae’r cynllun wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ledled Cymru gyda 994 o ysgolion a mwy na 14,000 o blant yn cymryd rhan yn y sesiynau athletau y llynedd.

Yng Nghaerdydd yn unig, mae 35 o ysgolion cynradd ac iau eisoes wedi cymryd rhan yn sesiynau athletau Campau’r Ddraig ers lansio’r rhaglen ym mis Hydref 2000.

Os ydych yn ysgol gynradd ac eisiau cael gwybod mwy am Gampau’r Ddraig yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu ewch am dro i www.campau-draig.co.uk

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Laura Mahoney yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2030 0594 neu laura.mahoney@scw.co.uk

 

Back   Top