 |
|
 |
Cymraeg > Newyddion > Archif > Mwy na 100,000 o blank wedi Cymryd rhan yng nghamp |
 |
|
|
|
|
|
16.06.2006
MWY NA 100,000 O BLANT WEDI CYMRYD RHAN YNG NGHAMPAU'R DDRAIG
Wrth i Dwrnament Agored Hyn FIRSTPLUS Cymru agor ar Gampws Golff a Sba Gwesty’r Vale (16-18 Mehefin 2006), trodd cyn-Gapten Cwpan Ryder, Brian Huggett, ei olygon at y genhedlaeth nesaf o olffwyr proffesiynol wrth iddo helpu Campau’r Ddraig i ddathlu carreg filltir arbennig iawn.
Mae’r cynllun gan Gyngor Chwaraeon Cymru a ariennir gan y loteri – ac sy’n darparu cyfleoedd gweithgarwch allgyrsiol i blant ysgolion cynradd – wedi recriwtio mwy na 100,000 o gyfranogwyr ers ei lansiad fis Hydref 2000.
Mae ffigwr nodedig o 102,743 o blant wedi cymryd rhan yn y cynllun yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ragori ar yr holl ddisgwyliadau a phwysleisio statws y cynllun fel yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed yn y byd chwaraeon yng Nghymru.
Golff yw’r gamp ddiweddaraf i’w hychwanegu at y rhestr o chwaraeon a gynigir gan Gampau’r Ddraig ac roedd y golffiwr enwog, Huggett, wrth law heddiw i ddysgu dipyn bach o sgiliau i blant a oedd yn cymryd rhan yn yr wyl Campau’r Ddraig yng Ngwesty’r Vale.
Ac roedd yn frwd ei ganmoliaeth i lwyddiant y cynllun:
“Mae Campau’r Ddraig yn ffordd hwyliog o ddenu plant at chwaraeon ac rwy’n llongyfarch y cynllun yn fawr ar ei lwyddiant. Mae’n hanfodol ein bod yn cael plant Cymru i godi ar eu traed a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol am 60 munud y dydd, bum gwaith yr wythnos.
“Rwy’n hynod falch bod tri-golff wedi cael ei ychwanegu at y cynllun. Mae dyfodol golff yng Nghymru’n edrych yn ddisglair iawn ac mae gennym dalent yn dod i’r amlwg yn y rhengoedd, a hynny ar raddfa gyflym iawn.
“Drwy gyfrwng Campau’r Ddraig, mae plant, o oed cynnar, yn cael cyfle i ddysgu’r sgiliau sylfaenol hollbwysig sy’n rhan mor annatod o chwaraeon amrywiol, a hynny dan oruchwyliaeth Cydlynwyr a gwirfoddolwyr cymwys.
“Dim ond drwy fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon o’r fath o oed cynnar y gallwn sicrhau ein bod yn dal ati i berffeithio talentau’r dyfodol.”
Dim ond tri golffiwr o Gymru sydd wedi bod yn gapteiniaid ar dimau Cwpan Ryder – y diweddar Dai Rees, y capten presennol, Ian Woosnam, a Huggett yn 1977. Mae Hugget yn cael ei ystyried fel un o olffwyr mwyaf llwyddiannus Cymru erioed ac roedd yn aelod blaenllaw o’r tîm a aeth ati i arwain y gwaith o wneud cais am ddenu Cwpan Ryder i Gymru yn 2010.
Ac wrth i Gymru edrych ymlaen at groesawu’r achlysur pwysig hwn i Westy’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ymhen pedair blynedd, mae plant o bob cwr o’r wlad yn profi’r chwyldro yn y gêm iau wrth i raglen Campau’r Ddraig uno gyda Datblygu Golff Cymru i gyflwyno golff i bawb.
Mae Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn hynod falch o’r ystadegau llewyrchus:
“Mae’r ffigyrau hyn yn awgrymu bod Campau’r Ddraig wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn tuag at weithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd. Mae’r rhaglen wedi eu helpu i gynnig amrywiaeth ehangach o weithgareddau, wedi gwneud yn well na’u targedau ac wedi helpu gyda newid agweddau.”
Mae’r fenter wedi denu cefnogaeth athletwyr byd enwog fel Colin Jackson, Tanni Grey-Thompson, Nicole Cooke a Gavin Henson, wrth i Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ymdrechu gyda’i gilydd i gyflwyno chwaraeon i fwy o blant mewn ysgolion cynradd.
Un o brif amcanion y cynllun yw recriwtio a hyfforddi trefnyddion, arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon gwirfoddol – yn enwedig yr arbenigwyr go iawn ar blant ... rhieni ac athrawon.
O ganlyniad i’r llwyddiant na welwyd mo’i debyg o’r blaen a brofir gan gynllun Campau’r Ddraig, mae Cyngor Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd wrthi’n datblygu cynllun i annog plant mewn ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn gweithgarwch allgyrsiol.
Mae disgwyl i’r prosiect Ysgolion Uwchradd – sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn wyth ysgol uwchradd ledled Cymru - gael ei ehangu ledled Cymru fis Medi 2006 efo noddiant wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Os ydych yn yr ysgol gynradd ac eisiau gwybodaeth bellach am y cyfleoedd cysylltiedig â chynllun Campau’r Ddraig yn eich ardal chi, cysylltwch â Chydlynydd Campau’r Ddraig yn eich awdurdod lleol neu ewch am dro i www.campaudraig.co.uk
Os ydych yn yr ysgol uwchradd neu’n hyn ac eisiau gwybodaeth bellach am y cyfleoedd golff yn eich ardal chi, cysylltwch â Datblygu Golff Cymru ar 01633 423798 / www.golfdevelopmentwales.org
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8273 / lynette.evans@scw.co.uk |
| | |
|
|
|
|
|