Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Newyddion > Y Newyddion Diweddaraf > Dysgu yn arwain at Lwyddiant Chwaraeon i john

18.05.2006

DYSGU YN ARWAIN AT LWYDDIANT CHWARAEON I JOHN

Mae llwyddiannau dysgu John Pritchard wedi ei alluogi i wneud cyfraniad o bwys i chwaraeon ledled Ynys Mon.

Ag yntau eisoes wedi rhoi gwasanaeth gwirfoddol hir i Glwb Pel-droed Amlwch, pan ddechreuodd menter Campau’r Ddraig yn 2000 fe aeth ati’n syth i gymryd rhan — gan redeg sesiynau ar gyfer bechgyn a merched ac, yn bwysicach, fe berswadiodd nifer o rieni eraill i helpu.

Bellach mae gan Glwb Pel-droed Iau Amlwch dim o wirfoddolwyr, diolch i ymdrechion John. Roedd ei brofiad llwyddiannus wrth gefnogi cynorthwywyr y clwb yn dangos fod ganddo’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cynghori gwirfoddolwyr eraill Campau’r Ddraig, a phan oedd yn rhoi’r gorau i’w fusnes ei hun fe’i recriwtiwyd gan yr Undeb Datblygu Chwaraeon i weithio fel mentor gyda rhieni oedd yn cychwyn clybiau Campau’r Ddraig newydd.

With i hyder John yn y swydd hon gynyddu, fe ymgymerodd a hyfforddi mewn chwaraeon eraill ac erbyn hyn mae’n gweithio gyda llawer o rieni ac ysgolion cynradd yn dysgu a chynghori mewn pel-droed, athletau a tri-golff.

Mae’n hyfforddi gyda’r academi bêl-droed leol ac yn rheoli Tîm Pel-droed Genethod Hyn Chwaraeon yr Ynysoedd. Mae John yn arwain trwy esiampl ac mae wedi denu dau o’i blant, Laura, 22 oed a Griffith, sy’n 18, i’w helpu gyda’r hyfforddi.

Yn 2004 fe ddechreuodd redeg sesiynau pêl-droed rheolaidd ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig ac erbyn hyn mae’n cydlynu a threfnu cynlluniau chwarae gwyliau Ynys Môn ar gyfer mwy na 200 o blant a 12 o staff.

Mae John yn llwyr fwynhau ei yrfa newydd ym myd chwaraeon, a’r heriau y mae’n eu cynnig. “Mae’r newid gyrfa hwn yn golygu fy mod wed, addasu hen sgiliau, darganfod sgiliau na wyddwn i ddim eu bod nhw gen i, a datblygu ystod hollol newydd o alluoedd’ meddai. “Rwyf wedi dysgu sgiliau mewn gwahanol chwaraeon ac yn cael y cyfle i weithio efo athletwyr anabl.”

Ers iddo ymuno a Campau’r Ddraig fel gwirfoddolwr, mae John wedi mynychu cyrsiau gan gynnwys hyfforddiant Campau’r Ddraig, arweinyddiaeth chwaraeon, cymorth cyntaf, hyfforddi a chyrsiau arbenigol mewn chwaraeon penodol.

Mae llwyddiannau dysgu John wedi ei alluogi i ddatblygu o fod yn wirfoddolwr Campau’r Ddraig i fentora a chydlynu rhaglenni chwaraeon ledled Ynys Môn. Ei nod nesaf yw hyfforddi fel tiwtor ar gyfer Campau’r Ddraig a’r Wobr Arweinwyr Chwaraeon.

 

Yn Ol Top