dragon-sport





Welcome to dragon sport   email a friend change language
English > Newyddion > Archif > Plant Caerfyrddin yn Gwireddu Breuddwydion
news-carm-0906.JPG

03.08.2006
PLANT CAERFYRDDIN YN GWIREDDU BREUDDWYDION OLYMPAIDD

Mwynhaodd athletwyr ieuainc Caerfyrddin flas ar y dyfodol pan ymwelodd sioe deithiol y Gemau Olympaidd â Chaerfyrddin.
 
Daeth bws teithiol deulawr Gemau Olympaidd 2012 i Sgwâr y Dref fel rhan o’i siwrnai o amgylch y DG.                                      

Cyfarfu disgyblion o Ysgol Gatholig St Mary’s yn Heol yr Undeb ddau o’r teithwyr ysbrydoledig – cyn-enillydd medal aur yn y naid hir, Lyn Davies, a seren y  400 metr ar hyn o bryd, Tim Benjamin.
 
Bu Campau’r Ddraig – menter flaengar gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac a ariennir gan y Loteri Genedlaethol – yn cymryd rhan yn y gwaith hyrwyddo hefyd, gan gynnal arddangosfeydd yn cynnwys plant lleol.   

Dywedodd y cydlynydd addysg gorfforol yn St Mary’s, Ian Mansfield, bod yr ysgol wedi bod yn cymryd rhan ym menter Campau’r Ddraig ers pedair blynedd.            
 
 “Fis Tachwedd diwethaf, cymerodd yr ysgol ran yn y Gemau Olympaidd mini, ac ennill,” meddai. “Aeth y plant yn eu blaen i gynrychioli Caerfyrddin yn rowndiau terfynol y De Orllewin a dod yn bedwerydd, ac roedd hynny’n arbennig o dda.                    
 
“Y llwyddiant hwn oedd yn gyfrifol am y gwahoddiad a ddaeth i fynychu’r bws Olympaidd, a chafodd pawb amser gwych.” 
 
Dechreuodd y bws ar ei daith yn Llundain i ddathlu blwyddyn ers cyhoeddi bod y brifddinas i gynnal y Gemau Olympaidd.
 
Bydd yn teithio ledled y wlad yn rhoi cyngor ynghylch popeth, o gymryd rhan fel gwirfoddolwr i brynu tocynnau. 

.

 

Yn Ol   Top