dragon-sport





Welcome to dragon sport   email a friend change language
English > Newyddion > Y Newyddion Diweddaraf > Y Ddraig yn Cyrraedd Ceredigion
news_ysgol-Mydroilyn.jpg

03.08.2006

Y DDRAIG YN CYRRAEDD CEREDIGION !

Gan weithio’n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gyfranogiad chwaraeon yng Ngheredigion drwy annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.       
 
Meddai Bryn Evans, Cydlynydd Campau’r Ddraig yng Ngheredigion: “Bwriad y cynllun yw ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnwys y plant nad ydynt yn mwynhau cyfleoedd o’r fath y tu allan i’w gwersi AG yn yr ysgol.”
 
Mae Campau’r Ddraig wedi cyflwyno plant i hyfforddiant, datblygiad sgiliau a chystadlaethau priodol gan ddefnyddio fersiynau wedi’u haddasu o’r gêm, i fod yn addas i’w hanghenion ac i lefel eu sgil.
 
[Yn y llun uchod mewn seremoni i gyflwyno tystysgrifau Campau’r Ddraig am gyflawniad a phresenoldeb mae disgyblion o Ysgol Gynradd Mydroilyn gyda Bryn Evans, Cydlynydd Campau’r Ddraig yng Ngheredigion a’r gwirfoddolwyr, Sally Jones a Melanie Cage.]
 
Defnyddir portffolio o wyth camp wedi’u haddasu yn y cynllun.  Yr wyth camp yw rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, tenis a golff.  Er mai prif ffocws Campau’r Ddraig yw gwella’r ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer plant 7 - 11 oed ledled Cymru, mae Campau’r Ddraig hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr, i gefnogi gyda datblygiad clybiau chwaraeon ar ôl ysgol a chymunedol.  
 
Yng Ngheredigion, mae pob un o’r 76 ysgol gynradd yn y sir wedi ymuno â’r cynllun, sy’n golygu yn y pen draw bod pob plentyn rhwng  7 ac 11 oed yn y sir yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.   
 
Gan ei fod wedi llwyddo gyda’i nod o gofrestru pob un ysgol gynradd yng Ngheredigion gyda’r cynllun, fe hoffai Bryn droi ei sylw yn awr at ddatblygu adrannau iau yn y gymuned.  Os hoffai eich clwb neu eich sefydliad dderbyn gwybodaeth bellach am Gampau’r Ddraig, cysylltwch â Bryn ar 01970 633 695 neu ewch am dro i’r wefan newydd am wybodaeth bellach ac adnoddau www.campaudraig.co.uk
 
Os ydych rhwng 7 ac 11 oed ac eisiau ymuno â chlwb lleol Campau’r Ddraig, ewch i siarad gydag un o’ch athrawon yn yr ysgol am wybodaeth bellach. 
 
Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol.  Ei diben yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7 i 11 oed.

 

Yn Ol   Top