31.05.2006
CEFNEWID AMSER TE am AMSER TI
Campau’r Ddraig yn trefnu gemau mini ar yr ynys i ddathlu achlysur chwaraeon.
Heddiw, cymerodd y Cymro sydd wrth y llyw yn ymgyrch Cwpan Ryder 2006 Ewrop seibiant oddi wrth ei baratoadau ar gyfer Twrnament Agored Cymru sydd ar y gorwel yn y Celtic Manor (1af-4ydd Mehefin 2006) i ddangos ei gefnogaeth i lansiad cenedlaethol yr ychwanegiad diweddaraf at restr Campau’r Ddraig.
Ymunodd Ian Woosnam â disgyblion o ysgolion cynradd Llanyrafon a Choed Efa yn Nhorfaen ar laswellt nodedig Campws y Celtic Manor yng Nghasnewydd wrth i Golff Campau’r Ddraig gael ei lansio i’r genedl. [Yn y llun mae plant ysgol Glanyrafon o gwmpas Ian Woosnam; hefyd ar y top, chwith mae Cadeirydd y Cyngor Chwaraeon Phil Carling]
Ac wrth i Gymru edrych ymlaen at groesawu Cwpan Ryder i’r wlad hon yn 2010, gall plant ledled y wlad edrych ymlaen yn awr at chwyldro mewn golff iau wrth i un o raglenni blaenllaw Cyngor Chwaraeon Cymru uno gyda Datblygu Golff Cymru i weithredu’r prosiect hwn sy’n garreg filltir.
Mae Woosnam yn gobeithio y bydd rhaglen Golff Campau’r Ddraig o gymorth i berffeithio sgiliau golffwyr arbenigol Cymru yn y dyfodol:
“Rwyf bob amser yn awyddus i gefnogi cyfleoedd i blant iau ac mae’n wych gweld cymaint o blant yn cydio yn eu clybiau am y tro cyntaf yma heddiw.
“Mae Golff Campau’r Ddraig yn darparu cyfle rhagorol i blant ddysgu golff mewn ffordd hwyliog a rhwydd i’w deall. Rwy’n gobeithio y byddant yn gweld pa mor bleserus mae golff yn gallu bod a dal ati i chwarae wrth i ni edrych ymlaen at groesawu Cwpan Ryder i Gymru ymhen pedair blynedd.
“Mae gan Gymru gymaint o sêr golff addawol yn dod i fyny drwy’r rhengoedd a gobeithiaf yn fawr y gallant ysbrydoli plant Cymru i fod eisiau gwneud eu marc yn y gamp. Yn wir, rwy’n siwr fy mod wedi gweld rhai o sêr golff y dyfodol yma heddiw ymhlith y plant!”
Yn derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae Campau’r Ddraig yn cynnig cyfleoedd chwaraeon i blant ysgolion cynradd ac iau y tu allan i wersi AG. Gydag wyth camp i ddewis o’u plith – athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, rygbi a thenis, a nawr golff – mae Campau’r Ddraig yn darparu’r celfi a all helpu i drawsnewid plant yn unigolion egnïol.
Yn ei lansiad fis Hydref 2000, dywedwyd mai cynllun Campau’r Ddraig oedd yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed yn y byd chwaraeon yng Nghymru – ac mae wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl. Mae’r fenter wedi denu cefnogaeth athletwyr byd-enwog fel Colin Jackson, Y Fonesig Tanni Grey-Thompson, Nicole Cooke, Gavin Henson a nawr Woosie ei hun, wrth i Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru geisio cyflwyno mwy o chwaraeon i blant ysgolion cynradd.
Gyda’r gwaith o ddatblygu’r cwrs yn barod ar gyfer 2010 ar droed eisoes, yfory bydd Woosnam yn camu ar gwrs Ffordd Rufeinig nodedig Campws y Celtic Manor wrth iddo geisio hawlio teitl Cymru.
Ac mae ei gofnod nodedig o lwyddiannau’n ei roi mewn lle da i arwain yr ymgyrch.
Mae’r gwr 48 oed a enillodd Bencampwriaeth y Meistri yn 1991 wedi chwarae mewn wyth Cwpan Ryder ac mae ei gyflawniadau gyrfaol o 44 o fuddugoliaethau mewn twrnamentau proffesiynol yn fwy na sydd gan unrhyw olffiwr presennol arall ym Mhrydain. Ef hefyd fydd y trydydd Cymro i arwain carfan Ewrop – gan ddilyn yn ôl troed Dai Rees a Brian Huggett – wrth iddo gamu ar lawntiau Clwb K yn Iwerddon yn nes ymlaen eleni. Mae’n CV trawiadol iawn.
Fel pennaeth tîm Cwpan Ryder 2006, byddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn hoffi gweld mwy o bobl yn ymarfer yn rheolaidd hefyd, a chred y gallwn gael ein hysbrydoli gan lwyddiannau Cymru ar y cyrsiau golff:
“Mae Campau’r Ddraig yn gymaint o lwyddiant ac rydym yn hynod falch o allu cydweithio gyda Datblygu Golff Cymru i sicrhau bod y gamp hon ar gael i blant o bob oed.
“Mae rhaglen Campau’r Ddraig yn un enghraifft o sut mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n mynd i’r afael â’r her a osodwyd gan gynllun Her Iechyd Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth i ni wneud pob ymdrech i gyflwyno Cymru egnïol ac iach, lle mae pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.”
I ddathlu lansiad y cynllun, mae gwefan Campau’r Ddraig yn cynnig cyfle i blant ennill rhai gwobrau arbennig. Ewch am dro i www.campaudraig.co.uk i gymryd rhan.
Os ydych mewn ysgol gynradd ac eisiau cael gwybodaeth bellach am fwy o gyfleoedd Campau’r Ddraig yn eich ardal, cysylltwch â Chydlynydd Campau’r Ddraig yn eich awdurdod lleol neu ewch am dro i www.campaudraig.co.uk
Os ydych mewn ysgol uwchradd neu’n hyn ac eisiau gwybodaeth bellach am gyfleoedd golff yn eich ardal chi, cysylltwch â Datblygu Golff Cymru ar 01633 423798 / www.golfdevelopmentwales.org
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru - lynette.evans@scw.co.uk /029 2033 8273