02.08.2006
MAER YN MWYNHAU HWYL HAF CAMPAU’R DDRAIG !
Bu Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Elwyn Jones, yn ymweld â dau o gynlluniau Hwyl Haf Campau’r Ddraig yr wythnos hon, er mwyn cael blas ar yr hwyl a’r chwarae teg a gynigir gan Draig.
Bu’r Maer a’r Faeres yn treulio eu hamser yn sgwrsio gyda gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a phlant yn Nhonmawr 2000 ac Ysgol Gynradd Cwmafan, gan wylio’r plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau hwyliog.
[Yn y llun uchod: Plant Tonmawr gyda’r Maer]
Roedd gan y plant ddiddordeb mawr yng Nghadwyn y Maer ac roedd y Faeres yn eu gwylio ac yn egluro hanes y Gadwyn. Yn Nhonmawr, cyflwynwyd y Maer i Victoria Billington, 13 oed, a arferai gymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig nes ei bod yn 11 oed a nawr mae’n gwirfoddoli ar gyfer y cynllun bob haf, i helpu’r hyfforddwyr a’r plant (yn cynnwys ei brawd iau!).
Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig, yn ceisio cael plant mewn ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol. Gyda chynnydd mewn gordewdra ymhlith plant, mae Campau’r Ddraig yn gweithio ar hudo plant oddi wrth eu gemau cyfrifiadurol ac allan i’r awyr iach i gael llond gwlad o hwyl yr haf hwn!
Mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’r plant i gyd yn cael amser rhagorol, ac mae’r pythefnos nesaf yn addo bod yn brysurach fyth gyda’r cynllun yn ymweld â Chwrt Herbert yng Nghastell-nedd, Ystalyfera, Cymer Afan a Choed Hirwaun.
Mae’r plant yn rhoi cynnig ar nifer o Gampau’r Ddraig, gyda’r pwyslais bob dydd ar gael hwyl yn cymryd rhan mewn gemau chwaraeon, rhoi cynnig ar sialensau newydd a sicrhau bod ‘Chwarae Teg’ yn gysylltiedig â’r chwarae bob amser.
Wedi 4 blynedd lwyddiannus, mae Campau’r Ddraig yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen, ac yn cynnig mwy o hwyl nag erioed! Oes gen ti ddiddordeb? Llwytha ffurflen archebu o www.npt.gov.uk/pass/dragonsport.cfm yn awr a’i hanfon at dîm Campau’r Ddraig!
Mae nifer o’r lleoliadau’n llawn bron, felly rhaid cofrestru’n gynnar. Os ydych angen gwybodaeth bellach, cysylltwch â Kate Kingsley neu Claire Sims ar 01639 875673.
Cefndir:
1. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Claire Sims (Cynorthwy-ydd Campau’r Ddraig) ar 01639 875670 neu e-bost: c.sims@npt.gov.uk
2. Y logo yw Draig, masgot Campau’r Ddraig, a fydd yn ymweld â’r plant yr haf hwn.
3. Mae’r lluniau sydd ynghlwm yn cynnwys y Maer a’r Faeres gyda’r plant, hwyl wrth Dynnu Rhaff, a’r Maer gyda Gwirfoddolwr Campau’r Ddraig, Victoria Billington.