22.07.2006
HAF O HWYL i GAMPAU’R DDRAIG yng NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT !
Gwelwyd cynnydd aruthrol yn y niferoedd a fynychodd raglen Hwyl Haf Campau’r Ddraig a gynhaliwyd mewn 8 lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod gwyliau’r haf eleni. Cafodd cannoedd o blant gyfle i roi cynnig ar athletau, pêl droed, tenis a sawl camp arall.
Dywedodd nifer o’r plant eu bod wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd ond ei bod yn drueni nad oedd y rhaglen wedi para am fwy o amser yn yr ardal, gan mai dim ond am wythnos oedd yr hyfforddwyr yn ymweld â lleoliad.
Roedd yn mynd i fod yn anodd dilyn llwyddiannau cynllun yr haf diwethaf, ond mynychodd y plant wrth eu cannoedd unwaith eto ac, am y tro cyntaf, cynhaliwyd y cynllun am bythefnos yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd. Gwnaeth y plant ddefnydd llawn o’r trac athletau a dangosodd nifer ohonynt ddiddordeb mewn ymuno â chlwb chwaraeon cymunedol.
Llwyddwyd i sicrhau cyllid gan Norwich Union Startrack er mwyn galluogi i’r plant brofi gweithgareddau athletau hwyliog gyda hyfforddwyr cymwys a phrofiadol, a derbyniodd y plant i gyd fag o nwyddau difyr!
Bu Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Elwyn Jones, yn ymweld â dau o gynlluniau Hwyl Haf Campau’r Ddraig hefyd, er mwyn cael blas ar yr hwyl a’r chwarae teg a gynigir gan Draig. Bu’r Maer a’r Faeres yn treulio eu hamser yn sgwrsio gyda gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a phlant yn Nhonmawr 2000 ac Ysgol Gynradd Cwmafan, gan wylio’r plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau hwyliog.
Llawer o ddiolch i’r holl gynlluniau a gynhaliodd raglen Hwyl Haf Campau’r Ddraig ac i Hamdden Cymunedol Celtic a fu’n gweithio mewn partneriaeth â Champau’r Ddraig i gyflwyno’r cynllun yng Nghastell-nedd.
Os hoffech gymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig fel gwirfoddolwr neu gyfranogwr (mae’n rhaid i chi fod rhwng 7 ac 11 oed i gymryd rhan!), cysylltwch â Kate Kingsley ar 01639 875673 neu holwch yn eich ysgol gynradd leol am glybiau ar ôl ysgol.
CEFNDIR
1. Cyfrannodd Norwich Union Startrack (a gynhelir gan Athletau’r DG) gyllid at y rhaglen.
2. Y campau a oedd yn cael eu cynnig yn rhaglen Hwyl Haf Campau’r Ddraig oedd Athletau, Tenis, Criced, Rygbi, Pêl Rwyd, Hoci, Golff a Phêl Droed.
3. Cynhaliwyd Hwyl Haf Campau’r Ddraig yn y trefi a’r pentrefi a ganlyn: Ystalyfera, Briton Ferry, Blaengwynfi, Tonmawr, Cwmafan, Canolfan Chwaraeon Castell-nedd, Margam a Chymer.
5. Tynnwyd y lluniau ar ddiwrnod terfynol Canolfan Chwaraeon Castell-nedd, pan ymwelodd y Maer â Chwmafan, ac yn y llun criced mae Morgan Williams yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd.