07.03.2006
YSGOLION yn CHWIFIO BANER y GYMANWLAD
Pan osododd Cyngor Chwaraeon Cymru her i dair ysgol gynradd yng Nghymru a thair ysgol gynradd ym Melbourne i wneud llun yn dangos beth mae Gemau’r Gymanwlad yn ei olygu iddynt hwy, cafwyd ymateb arbennig o dda.
Gyda’r enillydd o bob ysgol i gael ei wobrwyo gyda’r fraint o weld ei arlunwaith ef ei hun wedi’i argraffu ar gefn y baneri fydd yn cael eu cludo gan yr athletwyr yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad ym Melbourne, roedd llawer yn y fantol i ddisgyblion y chwe ysgol.
Fel rhan o raglen ‘mabwysiadu ail dîm’ Melbourne, bydd Tîm Cymru’n derbyn cefnogaeth gan dair bwrdeistref yn Victoria: Golden Plain Shires, Geelong a Bayside. Gyda’r nod o addysgu ac uno drwy gyfrwng chwaraeon, cafodd tair ysgol o Gymru eu gefeillio gydag ysgol o bob un o’r bwrdeistrefi hyn a’u herio i greu poster.
Fel rhan o gynllun Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru, roedd gan ddisgyblion o ysgolion Cymraeg fantais i raddau o ran meddwl am syniadau chwaraeon. Mae’r cynllun arloesol, sy’n ceisio cael mwy o blant mewn ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol, wedi bod yn gweithio i ehangu diddordebau a dychymyg chwaraeon ein plant. Ac nid dim ond yn y neuadd gymnasteg neu ar y cae chwarae mae chwaraeon wedi bod yn cael sylw. Mae’r athrawon wedi bod yn annog y disgyblion yn yr ystafell ddosbarth ac mae’r posteri’n dystiolaeth o’u hymdrechion.
Yn cynnig digon o gyfle i’r dychymyg, roedd y disgyblion yn cael rhyddid i lunio poster i grynhoi’r profiad o’r Gemau, gyda slogan Melbourne, ‘United by the Moment.’ Yn cynnwys popeth o fasgotau a chystadlaethau chwaraeon i nifer fawr o luniau o’r ‘byd mewn undod’, cafwyd cymysgedd ddiddorol o ddelweddau gan yr arlunwyr addawol.
Cafodd chwe disgybl eu gwobrwyo am eu dawn greadigol ac mae eu dehongliad hwy o’r Gemau’n addurno’r baneri y bydd athletwyr Cymru’n eu chwifio’n falch wrth iddynt gamu ar Gae Criced Melbourne ar gyfer seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad XVIII (15-26 Mawrth).
Yn cyhoeddi enw un o’r enillwyr yn Ysgol Gynradd Palmerston, Y Barri, heddiw, cyflwynodd y ddeuawd a fydd yn cystadlu yn nyblau’r badminton ei chynllun buddugol i Cerys, sy’n wyth oed.
Yn camu ar yr awyren a fydd yn hedfan i Melbourne mewn dim ond pum niwrnod, heddiw, cafodd Martyn Lewis a Matthew Hughes seibiant o’u hymarfer er mwyn dadorchuddio’r faner orffenedig a fydd yn cael ei chwifio ger bron cynulleidfa fyd-eang o un biliwn ar y teledu ymhen wyth niwrnod.
Wrth ateb llu o gwestiynau gan ddisgyblion brwd, bu sêr y Gymanwlad yn creu cynnwrf ynghylch yr achlysur ac yn siarad am eu balchder yn gwisgo fest goch Cymru a chwarae dros eu gwlad.
Bydd y ddau’n gobeithio parhau â llwyddiant Cymru ar y cwrt, wedi gwneud yn dda yng Ngemau Manceinion a Kuala Lumpur. Wedi sicrhau eu lle ymhlith yr wyth detholyn uchaf, maent yn ymuno â thîm cryf o chwech sy’n awyddus i roi perfformiadau da a phlesio cefnogwyr Cymru.
Ac wedi sicrhau rhyw 230 o wylwyr ychwanegol iddynt hwy eu hunain o’r ysgol yn y Barri, bydd y garfan fadminton yn awyddus i beidio â siomi eu cefnogwyr pan fyddant yn camu ar y cyrtiau yn Awstralia ar Fawrth 16eg.
Cefndir
Enillwyr y Gystadleuaeth
• BAYSIDE
Ysgol Gynradd Beumaris North, Victoria
Georgia ac Emma (cyd-enillwyr)
Wedi’i gefeillio gyda:-
Ysgol Gynradd Biwmares, Ynys Môn
Matthew
• GOLDEN PLAIN SHIRES
Ysgol Gynradd Bannockburn, Victoria
Katrina (deg oed)
Wedi’i gefeillio gyda:-
Ysgol Gynradd Palmerston, Bro Morgannwg
Cerys (wyth oed)
• GEELONG
Ysgol Gynradd Clifton Springs, Victoria
Karlee (naw oed)
Wedi’i gefeillio gyda:-
Ysgol Gynradd Clun, Castell-nedd Port Talbot
Carly
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Laura Mahoney yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8274 neu laura.mahoney@scw.co.uk