31.01.2006
LAWNSIAD HOCI CAMPAU'R DDRAIG yn YSGOL LLANDDULAS
Mae Mrs Sharon Davies, Prifathrawes newydd Ysgol Llanddulas, Conwy wedi penderfynu mentro ar glwb newydd ar ol ysgol - Hoci'r Ddraig.
Cychwynnodd y clwb newydd ar dir yr ysgol ar Ddydd Iau 26ain o Ionawr 2006, gyda'r plant yn mwynhau prynhawn o weithgareddau Hoci'r Ddraig. Gwnaeth y plant fwynhau y sesiwn yn fawr, wrth chwarae hoci-hwyl mewn timoedd bach a derbynnodd yr ysgol sach yn llawn o offer hoci ar gyfer y clwb.
Bydd yr ysgol hefyd yn rhedeg eu clybiau Tenis, PĂȘl Rwyd ac Athletau ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth ac hyfforddiant ychwanegol wrth cyd-lynydd Campau'r Ddraig Conwy.