© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Other Heroes

Enw: Tom Haffield
Camp: Nofio

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais gael gwersi nofio pan oeddwn yn ifanc iawn – yn rhyw dair oed.

Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn gwneud ychydig o garate – yn mynd i glwb ar ôl ysgol – ond fe roddais y gorau i hynny wedi dechrau nofio, pan oeddwn yn gorfod gwneud mwy o oriau o ymarfer.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy’n mwynhau teimlo’n heini, teithio’r byd a chwrdd â llawer iawn o wahanol bobl.

Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Mae fy nofio yn fy nghadw’n heini ac yn iach wrth gwrs. Rwyf hefyd yn ceisio bwyta llawer o fwyd iach – digon o lysiau blasus! Rwy’n yfed llawer iawn o ddwr ac yn gwneud yn siwr fy mod yn cael nosweithiau cynnar.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni am eu bod wedi bod mor gefnogol. Maent wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i’m cefnogi – yn fy nôl a’m danfon ar gyfer ymarfer pan oeddwn yn iau. A’m hyfforddwr, Dave Haller.

Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich tyb chi?
Mae’n eithriadol bwysig bod plant yn bod yn egnïol mewn chwaraeon maent yn eu mwynhau, ac nid dim ond eistedd i lawr yn gwneud dim.

Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?
Yn yr hirdymor, bydd yn cael effaith bositif ar chwaraeon Cymru. I’r mwyafrif, bydd Campau’r Ddraig yn golygu bod ieuenctid yn gallu sefydlu arferion iach ac egnïol. Ac fe all ddod o hyd i rai o sêr Olympaidd y dyfodol hefyd.