Enw: Safiyyah Azeez
Camp: Tenis

Lluniau trwy ganiatad ffotograffydd James Jordan
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?Dechreuais chwarae tenis yn 2001 yn fy nghlwb lleol, Dinas Powys – dim ond ar foreau Sadwrn gyda chriw o’m ffrindiau. Yn raddol, dechreuais chwarae mwy a mwy. Yna, sylweddolais fy mod eisiau bod o ddifrif ynghylch tenis a symudais i APCC am hyfforddiant dwysach. Bellach, rwyf yn Esporta Caerdydd ac yn ymarfer bob dydd bron gyda’m hyfforddwyr, Rhod Vaughan a Jo Thomas.
Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn mynd i nofio’n aml ac yn chwarae pêl rwyd dros fy ysgol. Rwy’n dal i geisio chwarae ychydig o hoci ond mae’n anodd iawn cynnwys popeth. Ac roeddwn yn arfer gwneud y naid uchel yn yr haf, ond ar hyn o bryd mae’n anodd cael hyd i amser i unrhyw chwaraeon eraill gan fod tenis yn gymaint o ymrwymiad, ond mae’n werth y cyfan yn sicr.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Rwyf wrth fy modd yn teithio. Unwaith rydych yn cyrraedd safon uchel, mae’n anodd cael hyd i dwrnamentau agos at adref, felly rwy’n teithio’n rheolaidd. Fe fues i yn Florida fis Hydref, ac roedd hynny’n wych. Hefyd, rwyf wedi bod yn Y Ffindir, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a’r Alban. Rwyf wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau newydd o bob cwr o Brydain, a rhai o America.
Rwyf hefyd yn mwynhau gosod nodau i mi fy hun ac rwy’n teimlo fy mod yn gwneud llawer o gynnydd wrth eu cyflawni. Er nad yw tenis yn gêm i dimau, fel hoci neu bêl rwyd, rwyf dal wrth fy modd efo’r ffaith bod gennyf dîm o bobl sy’n fy nghefnogi – fy hyfforddwyr, yr hyfforddwr ffitrwydd, hyfforddwyr Prydain a’m teulu. Rwyf wedi cwrdd â Pat Cash, Brad Gilbert ac Andy Murray, ac roedd hynny’n cwl. Er ei fod yn llawer o waith caled, mae’n werth y cyfan!
Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi?
Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn oherwydd mae’n cynnig cyfleoedd gwych i blant gymryd rhan mewn chwaraeon drwy ddatblygu eu diddordeb a’u sgiliau.
















