© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Tennis Heroes

Enw: Chris Lewis
Chwaraeon: Tenis

Llwyddiannau: Pencampwr Tenis Dynion Cymru 2001,02,03,05. Pencampwr Dyblau Dynion Prydain 2002. Ail rownd Wimbledon Iau 2000.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Yn yr ysgol ac yn y parc lleol.

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?

Pêl droed, rygbi, criced, tenis a golff.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?

Cystadlu, y teimlad o ysbryd tîm, ymarfer corff a cyfle i ddangos eich doniau.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?
Chwarae tenis yn broffesiynol, defnyddio'r gampfa yn rheolaidd, trio bwyta bwydydd sy'n dda i chi.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?

Chwaraewyr tenis gorau'r byd gan fy mod o hyd yn trio efelychu hwy.

Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?

Rwyf yn llwyr gefnogol o unrhyw fenter sydd yn annog bobl ifanc i gyfranogu mewn chwaraeon. Rwy'n credu caiff Campau'r Ddraig ddylanwad mawr ar y nifer o blant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, a felly mae'n bwysig iawn.
Y gobaith yw bydd chwaraeon Cymru yn elwa yn y pendraw, fel bydd bywydau y plant a fydden, fel arall, ddim wedi mwynhau y manteision o ymgymryd â chwaraeon.