Enw: Philip Cochrane
Chwaraeon: Chwaraewr Tennis Cadair Olwyn

Llun: hawlfraint Graham Boole Photography
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais chwarae Tenis Cadair Olwyn fis Gorffennaf 2003 yn Spytty yng Nghasnewydd, pan oedd fy nhad yn y rhwydi criced yno. Dim ond taro'r bel gyda fy chwaer oeddwn i. Fis Tachwedd y flwyddyn honno, dyma fi'n cyfarfod a John Gilgar, sy'n rhedeg Clwb Tenis Cadair Olwyn Caerdydd a dechreuais chwarae yno ddwywaith yr wythnos. Yna, yn 2004 cymerais ran yn fy Nhwrnament cyntaf a derbyn hyfforddiant gan Geraint Richards, Hyfforddwr Ieuenctid Prydain syn gweithio o Gaerdydd. Mae'r clwb a Chwaraeon Anabledd Cymru wedi bod yn gefnogol iawn.
Am y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi cynyddu fy oriau chwarae a nawr yn ymarfer am ddeg awr yr wythnos gyda fy hyfforddwr Becca Strelzyn yn y pentref Chwaraeon Rhyngwladol, Casnewydd
Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Rwyf wedi rhoi cynnig ar hoci sled a phêl fasged ac yn chwarae pêl fasged cadair olwyn i Celtiaid Caerdydd. Rwyf yn mynychu Gwersyll Iau Prydain a rwyf wedi chwarae yng Nghymru a thramor diolch i Swyddogion Chwaraeon Anabledd yng Nghaerdydd a Casnewydd.
Cefais fy nghyflwyno i athletau a chefais fy annog gan filoedd o bobl yn y dorf ym marathon mini cadair olwyn Llundain yn.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau cystadlu gyda phobl o bob cwr o Ewrop a'r cyfeillgarwch rydych yn ei wneud mewn twrnamentau tenis. Rwyf bob amser wedi mwynhau symud yn gyflym, felly mae tenis cadair olwyn a rasio'n gweddu i mi!! Mae cynrychiolu eich gwlad yng nghystadleuthau y byd yn ffantastig hefyd.
Rwyf hefyd wedi cael cwrdd â'r Fonesig Tanni Grey-Thompson, Matthew Pinsent a gwraig Tony Blair!!
Llwyddais i fynd ar y teledu hefyd, yn y Marathon ac yn Wimbledon, pan roddodd Roger Federer ei lofnod i mi. Roedd hynny'n cwl.
Rwyf wedi cwrdd ag Ozzy Osbourne hefyd, ac wedi cael sgwrs gydag ef. Roedd gen i ofn i ddechrau ond wedyn roedd yn grêt.
Yn 2005, roeddwn ymhlith 25 o chwaraewyr tenis i gael eu cynnwys ar raglen ddatblygu ar gyfer cystadleuwyr gyda siawns o ennill medal yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Ers y cyfnod yma rwyf wedi gwella fy ngradd yn rhestru Dynion y Byd o tu allan y 300 orau i safle 115 ac yn y gynghrair i chwaraewyr o dan 18 rwyf nawr yn 4edd. Pedair mlynedd ar ol gennyf i gyrraedd rhif 1af!
Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi?
Mae Campau'r Ddraig yn eithriadol bwysig i mi oherwydd mae wedi fy nghyflwyno i bobl sydd wedi fy helpu yn fy chwaraeon. Mae'n grêt bod yr ysgolion yn cael offer yng Nghymru oherwydd mae'n golygu bod mwy o bobl yn gallu rhoi cynnig ar rywbeth newydd a hwyliog!! Fy nghyngor i yw rhoi cynnig ar lawer o wahanol bethau a gweld pa rai rydych yn eu hoffi orau. Efallai y gwelwn ni chi ar y cwrt neu ar y trac yn y diwedd!
















