Enw: Ryan Jones
Chwaraeon: Rygbi

Mae’n chwarae rygbi i’r Gweilch ac i Gymru ac yn aelod o Lewod Prydain. Yn y llun yma mae yng nghwmni disgyblion Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Treboeth, Abertawe, yn Stadiwm Liberty.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Rwyf wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o chwaraeon erioed, er pan allaf gofio. Ond dechreuais chwarae gartref gyda ’nhad, yn yr ardd fel arfer.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Tenis oedd fy nghariad cyntaf mewn chwaraeon ond roeddwn yn rhoi cynnig ar (ac yn mwynhau) popeth!
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Rwy’n gwir fwynhau’r gyfeillgarwch a’r teithio sy’n gysylltiedig â gwahanol dimau. Rwyf hefyd yn mwynhau chwarae o flaen miloedd o bobl.
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n ymarfer bob sydd bron gyda’r Gweilch, hyd yn oed er nad wyf yn chwarae, er mwyn cadw’n heini ac iach. Wrth reswm, rwyf hefyd yn ceisio bwyta’n iach, yn barod ar gyfer pan fyddaf yn chwarae eto.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni mae’n bur debyg, ond mae cymaint o bobl wedi dylanwadu arnaf ac wedi fy nghefnogi yn fy ngyrfa. Mae’n rhaid i mi ddweud bod rheini mor bwysig yn ein bywydau. Roedden nhw bob amser yn fy annog ac yn fy nanfon i weithgareddau chwaraeon amrywiol pan oeddwn yn blentyn. Mae gen i ddyled enfawr iddyn nhw. Byddai’n braf gweld mwy o rieni’n gwirfoddoli gyda Champau’r Ddraig, gan fod ganddyn nhw gymaint i’w gynnig.
Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich barn chi?
Rwy’n meddwl bod cymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc yn ffantastig! Mae o gymorth i ddatblygu unigolion yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Mae Campau’r Ddraig yn cynnig cymaint o gyfleoedd, nid yn unig i blant, gyda’r chwaraeon amrywiol sydd ar gael, ond hefyd i wirfoddolwyr sy’n cael cymaint o gefnogaeth a hyfforddiant, ac felly mae’n werth rhoi cynnig arni.
Rwy’n meddwl bod cymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc yn ffantastig! Mae o gymorth i ddatblygu unigolion yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Mae Campau’r Ddraig yn cynnig cymaint o gyfleoedd, nid yn unig i blant, gyda’r chwaraeon amrywiol sydd ar gael, ond hefyd i wirfoddolwyr sy’n cael cymaint o gefnogaeth a hyfforddiant, ac felly mae’n werth rhoi cynnig arni.
Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?
Gobeithio y bydd nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel gyffredin yn cynyddu drwy gyfrwng Campau’r Ddraig. Yn yr hirdymor, rwy’n siwr y bydd yn cael effaith uniongyrchol a phositif ar Dimau Cenedlaethol, yn enwedig y tîm rygbi!
















