Enw: Jamie Robinson
Chwaraeon: Rygbi

Chwarae rygbi i Gaerdydd a Cymru. Wedi chwarae i dimoedd dan 19 a 21 Cymru, Cymru A a hyd yn hyn wedi ennill 13 cap llawn.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gynradd.
Pa gampau oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Pêl Droed, rygbi a criced.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Y gystadleuaeth a'r ffrindiau rydych yn gwneud.
Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?
Rwyf yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd a bwyta'n go ofalus.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni ac athrawon chwaraeon.
Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Mae Campau'r Ddraig yn eithriadol bwysig i ddenu diddordeb plant yn chwaraeon pan yn ifanc iawn ac i ddatblygu y diddordeb yna i mewn i dalent ddilys.
Pa effaith yr ydych yn tybio caiff Campau'r Ddraig ar chwaraeon yng Nghymru?
Gobeithaf mae drwy yr elfennau sylfaenol a ddarparir gan Campau'r Ddraig bydd Cymru'n cynhyrchu llawer o chwaraewyr ar lefel safon y byd.
















