Enw: Mark Jones
Chwaraeon: Rygbi

Chwarae rygbi i Lanelli a Cymru
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Cefais fy annog i gymryd rhan mewn chwaraeon gan Mr Harry Young, fy athro cynradd. Roedd fy rhieni yn fy annog i gymryd rhan hefyd.
Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn chwarae rygbi, pel droed, athletau, gymnasteg a chriced yn yr ysgol.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Cadw'n heini, chwarae gyda ffrindiau, teithiau i ffwrdd fel sgwad.
Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Rwy'n cadw at ddeiet a rhaglen ffitrwydd gaeth sydd wedi'u pennu gan fy hyfforddwr sy'n hyfforddwr ffitrwydd cenedlaethol. Mae hyn hefyd yn cynnwys hyfforddi a phwysau a rhedeg.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni a'm hyfforddwyr fu'r dylanwad mwyaf hyd yma. Maent i gyd wedi dylanwadu ar fy ngyrfa mewn ryw ffordd.
















