© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Suzanne Drane
Camp: Chwarae Pêl Rwyd

Seren Pêl Rwyd Gemau'r Gymanwlad

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Roedd fy ysgol gynradd (Rydal Penrhos) yn ysgol frwdfrydig iawn ac roeddem yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon yn ystod y gwersi ac ar ôl ysgol.
Roeddem yn cael ein hannog i fod yn rhan o’r amserlen allgyrsiol o chwaraeon ac, oherwydd mai ychydig o ddisgyblion oedd ym mhob blwyddyn ysgol, roeddem yn cael llawer o gyfleoedd i chwarae.  Hefyd, roedd gen i deulu cefnogol iawn a oedd yn fy nanfon a’m nôl ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, a’m danfon i glybiau cymunedol. 

Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, fel nofio, gymnasteg, hoci, pêl rwyd a rownderi.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Chwaraeon tîm rwy’n eu mwynhau fwyaf, cydweithio gydag eraill a chael hwyl a mwynhad.  Ethos o dîm.

Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Ymarfer, cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, bwyta deiet gytbwys – sy’n gallu cynnwys popeth, ond yn rhesymol.  Ffordd o fyw gytbwys yn sicrhau bod gennyf amser ar gyfer gweithio, y brifysgol, ymarfer, cymdeithasu ac amser i mi fy hun. 

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy athrawes AG yn yr ysgol uwchradd (Sue Leedham) a ddaeth yn hyfforddwr ysgol, clwb a sirol i mi, gan fy helpu i gael fy ngweld ar gyfer system dalent Lloegr a rhoi fy enw ar gyfer treialon timau ieuenctid Cymru. 

Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich tyb chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon yng Nghymru yn eich tyb chi?

Mae’n hanfodol bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran ifanc fel eu bod yn cael blas ar y chwaraeon y gallant gymryd rhan ynddynt a phrofi a phenderfynu ar y gweithgareddau maent yn eu mwynhau fwyaf.  Campau’r Ddraig yw’r ris gyntaf ar yr ystol ar gyfer athletwyr y dyfodol, felly, mae’n hanfodol yn y broses o sicrhau bod Cymru mor llwyddiannus ag y bo modd mewn cystadlaethau mawr.