Enw: Cara Moseley
Camp: Chwarae Pêl Rwyd

Seren Pêl Rwyd Cymru
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais chwarae pêl rwyd yn yr ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6, gan ddal ati wedyn drwy’r ysgol ac ymuno â’m clwb lleol ym mlwyddyn 7.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Popeth ac unrhyw beth!
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Mae’n fy nghadw’n iach ac rwy’n cael cwrdd â phobl newydd a chael cyfle i chwarae’r gamp rwyf wrth fy modd â hi.
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n ymarfer bob dydd fel rhan o’m hyfforddiant pêl rwyd, rwy’n bwyta’n iach ac yn cael digon o gwsg.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Jean Davies a Lyn Gunson. Nhw ddaeth o hyd i mi yn 13 oed ac maent wedi credu erioed y gallwn chwarae dros fy ngwlad.
Pwysig iawn – mae cyfranogiad cynyddol yn siwr o gael effaith bositif ar yr unigolyn yn cymryd rhan a hefyd y gamp ei hun, gan ddarparu mwy o bobl ieuainc heini ac iach a all ddal ati a chodi safon chwaraeon yn y wlad hon.
















