© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Rhiannon Ace
Camp: Pêl Rwyd

Cyflawniadau hyd yma:
Cymru D16, D18, D19, D21, agored.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Mae fy rhieni yn hoff iawn o chwaraeon ac roeddent yn fy annog i roi cynnig ar nifer o wahanol gampau !

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Gymnasteg, nofio, athletau, pêl rwyd, hoci.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Cwrdd phobl newydd, cyrraedd nodau, teimlo'n heini.

Sut ydych chi'n cadwn heini ac iach?
Deiet iach, ymarfer yn rheolaidd (rhedeg llawer, na wnes i ddim dweud hynna!).

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy mam.


Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Dydi rhieni pawb ddim yn eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon yn blant. Mae pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon o oed ieuanc yn fwy tebygol o ddal ati drwy gydol eu hoes. Mae Campau'r Ddraig yn annog pobl ieuainc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn annog pobl hyn i gymhwyso i ddysgu chwaraeon mewn ffordd sy'n ei wneud yn bleserus i blant. Os bydd mwy o blant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon o oed ieuanc, gobeithio y bydd gan Gymru fwy o athletwyr o safon uchel yn y dyfodol.