© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Julia Longville
Camp: Hyfforddwraig Pêl Rwyd

Cyn hyfforddwraig tîm Pêl Rwyd Cymru

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ac yna parhau i chwarae wedi tyfu fyny.

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?

Pêl Rwyd, pêl fasged, gymnasteg ac athletau.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Mae chwaraeon yn cadw fi'n iach. Rwyf yn mwynhau cyfarfod a pobl, y gystadleuaeth a'r holl fwrlwm o gystadlu.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?
Rwyf yn mynd i'r gampfa ac yn mwynhau rhedeg.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?

Yr athrawes Pam Edmonds oedd y dylanwad mwyaf. Roedd wedi chwarae pêl fasged a phêl rwyd i Seland Newydd.