© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Melanie Tuckwell
Camp: Chwarae Pêl Rwyd

Cyflawniadau hyd yma: Profiad Chwarae: D18 - 5 cap; D21 - 14 cap yn cynnwys Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd 1992; Agored - 14 cap yn cynnwys Gemau'r Byd 1993
Profiad Hyfforddi: D21 Hyfforddwraig Gynorthwyol ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Byd 2000; D19 Prif Hyfforddwraig 2001 - 2003; D21 Prif Hyfforddwraig 2003 yn parhau.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Pan oeddwn yn yr ysgol gynradd.

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Pêl rwyd, athletau, rygbi a phêl droed.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Mae'n fy nghadw'n heini ac mae'n hwyl. Rwy'n mwynhau bod yn gystadleuol yn erbyn rhywun arall ond yna cyfarfod a gwneud ffrindiau. Mae chwaraeon yn cynnig cyfle i chi deithio, ar bob lefel.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?

Gan fy mod wedi ymddeol o gystadlu ar y lefel uchaf yn awr, rwy'n ceisio mynd i'r gym ac rwy'n chwarae sboncen mor aml ag y gallaf. Rwyf hefyd yn ceisio bwyta'n iach a dydw i ddim yn ysmygu nac yn yfed felly mae hynnyn helpu.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Y dylanwad mwyaf arnaf oedd fy athrawes AG, darlithydd yn y 6ed dosbarth am Hyfforddwraig yn y Brifysgol. Roeddent i gyd wedi cystadlu'n rhyngwladol a hyfforddi ar y lefelau uchaf. Hefyd, fy mrawd, a oedd yn chwarae rygbi ar y lefel uchaf ac felly roeddem yn ymarfer ac yn cymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon gyda'n gilydd.


Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?

Mae Campau'r Ddraig yn rhoi cyfle i ieuenctid gymryd rhan mewn nifer o chwaraeon ar lefel gymunedol, sy'n hanfodol i sêr chwaraeon ieuainc, fel eu bod yn dysgu sylfeini nodweddion fel ystwythder, cydbwysedd a chydlynedd, heb ganolbwyntio gormod ar un gamp bryd hynny. Bydd y gwelliant yn sgiliau allweddol y plant i'w weld yn dod drwodd yn y dyfodol wrth i ni weld mwy o athletwyr Cymru'n cystadlu ar lwyfan y byd ac yn ennill medalau. Dylai hyn gael effaith ar wneud Cymru'n genedl iachach hefyd.