© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Carys Jenkins
Camp: Pêl Rwyd

Cyflawniadau hyd yma: D17 FENA 2000, (capten) 2003; D19 FENA 2004 (capten); D21 FENA 2005; Pencampwriaethau Ieuenctid y Byd 2005

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Yn yr ysgol gynradd, roedd fy athrawes yn fy annog.

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Gymnasteg, Pêl Rwyd, Rownderi, Athletau, Nofio, Tenis.

Beth ydych chi'n ei fwynhau am chwaraeon?
Teimlo'n heini ac iach, gwneud ffrindiau da, cwrdd phobl ddiddorol a theithio i lawer o wahanol leoedd.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?
Sesiynau rheolaidd yn y gym a chwarae pêl rwyd wrth gwrs.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy chwiorydd hyn, roedd y ddwy ohonynt yn chwarae pêl rwyd ac roeddwn wrth fy modd yn eu gwylio. Roeddent yn fodlon ymarfer gyda mi y tu allan i'r ty.


Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru? 
Pwysig iawn, mae'n hanfodol bod pobl ieuainc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon ag y bo modd, a'u mwynhau. Mae'n allweddol bod plant yn cael pob cyfle gan fod chwaraeon yn amgylchedd diogel iddynt allu magu hyder ynddo a datblygu sgiliau cymdeithasol da. Mae'n eu helpu i gadw'n iach hefyd.