Enw: Sarah Thomas
Chwaraeon: Hoci

Seren Hoci Olympaidd a Gystadlodd yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
I ddechrau, roeddwn yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’m ffrindiau ar ôl ysgol, dim ond y tu allan, neu yn y parc chwarae lleol. Yna yn yr ysgol, rhoddais gynnig ar wahanol fathau o chwaraeon.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Popeth o griced i denis, pêl rwyd, rygbi cyffwrdd, athletau, gymnasteg a hoci wrth gwrs.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwyf wir yn mwynhau’r teimlad rwy’n ei gael wrth sgorio gôl neu wedi bod yn ymarfer. Rwy’n mwynhau’r ffaith fy mod yn chwarae gêm dîm ac felly rwy’n gallu gwneud llawer o ffrindiau a mwynhau’r llwyddiant gyda hwy.
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n ymarfer chwe diwrnod yr wythnos gyda fy amserlen hoci ac rwy’n mynd i’r gym. Rwyf hefyd yn ceisio bwyta bwyd a fydd yn fy ngalluogi i chwarae ar fy ngorau (rwy’n gallu gwneud pryd hynod flasus o basta) y noson cyn unrhyw gêm. Rwyf hefyd yn cysgu llawer iawn, sy’n allweddol er mwyn galluogi i’m corff adfer, fel fy mod yn gallu ymarfer yn galed yn fy sesiwn nesaf.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni; heb eu cefnogaeth hwy – yn fy nanfon i gemau, yn talu fy ffïoedd cystadlu pan oeddwn yn blentyn – ’fyddwn i ddim wedi cyrraedd ble rydw i heddiw. O ran hoci, cafodd fy hyfforddwraig ryngwladol gyntaf, Margaret Medlow, ddylanwad aruthrol ar fy agwedd at y gêm..
Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich tyb chi?
Mae Campau’r Ddraig yn fenter allweddol sy’n rhoi cyfle i blant roi cynnig ar bob math o chwaraeon a gobeithio hefyd y bydd yn rhoi cyfle iddynt wireddu eu breuddwydion yn y gamp o’u dewis hwy. Mae hyn mor bwysig pan ydych yn blentyn oherwydd mae’n rhoi cyfle i chi ryngweithio gyda’ch cyfoedion, yn rhoi cyfle i chi fod yn heini ac yn iach a hefyd yn rhoi cyfle i blant deimlo’n dda amdanynt hwy eu hunain.
Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Yn ddiau mae'n sicr o ddarparu fwy o sêr a delfryd ymddwyn ar ran y dyfodol, gan wneud chwaraeon Cymru hyd yn oed yn gryfach !!
















