Enw: Sam Ricketts
Chwaraeon: Pêl Droed

Cefnwr chwith Bolton Wanderers a Cymru.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Mae fy nhad yn gyn-bencampwr byd am neidio ceffylau ac felly roeddwn yn reidio ceffylau ers i mi gael fy ngeni mwy neu lai! Yna, pan ddechreuais fynd i'r ysgol, dechreuais gymryd rhan ym mhopeth.
Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Cymaint ag y gallwn! Rygbi, criced, hoci, athletau, rownderi, marchogaeth ceffylau a phêl droed. Dydw i ddim yn meddwl bod yna lawer o chwaraeon dydw i heb roi cynnig arnynt.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Yr hwyl a'r mwynhad rydych yn ei gael o chwarae gyda'ch ffrindiau, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd a mynd allan i'r awyr iach mae'r cyfan mor iach i chi.
Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Yn chwarae pêl droed mae'n rhaid i mi fod yn heini iawn, felly mae ymarfer bob dydd yn fy helpu i fod yn gorfforol heini. Rwyf hefyd yn gorfod bod yn ofalus wrth fwyta, mae'n rhaid bwyta bwydydd sy'n rhoi egni a digon o fitaminau a mwynau i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau bwyta'n dda ac mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n iach.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Roedd fy nhaid bob amser yn fy annog er pan oeddwn yn fachgen bach - yn fy helpu i wella fy mhêl droed. Yn bwysicach na dim, gwnaeth i mi ddefnyddio fy nhroed chwith, felly nawr rwy'n gallu defnyddio'r ddwy droed gystal i gilydd - ymarfer yw'r cyfan. Ond mae cael cefnogaeth gan rywun agos atoch o gymorth mawr! Mae hyn wedi golygu fy mod yn gallu chwarae fel cefnwr dros Gymru. Oni bai am fy nhaid, fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl.
Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich tyb chi? Pa effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Gall cynlluniau fel hyn ddarparu popeth mae plant ei angen i gyrraedd y brig - a digon o hwyl yn y cyfamser. Rwy'n siwr y bydd Campau'r Ddraig yn cael effaith aruthrol ar chwaraeon Cymru ac y byddwn yn gweld sêr y dyfodol yn dod drwodd. Heb y cynllun, yn eu helpu i ddechrau arni mewn chwaraeon, gyda digon o gyfleoedd hwyliog, efallai na fyddent yn llwyddo i gyrraedd y brig.
















