Enw: Simon Jones
Camp: Criced

Mae Simon yn gyn-fowliwr gyda Morgannwg a Lloegr a bellach mae’n chwarae i Glwb Criced Sir Gaerwrangon.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais fel y rhan fwyaf o blant heddiw, yn yr ysgol gynradd. Fe wnaeth fy Mhennaeth, Mr Thomas, fy nghynnwys mewn chwaraeon o oed cynnar ac roeddwn yn chwarae pob camp dan haul bron - athletau, rygbi, pêl droed, criced, popeth! Roedd yr ysgol ar draws y ffordd i dy fy rhieni ac felly byddwn yn aros ar ôl yn aml pan oedd y plant eraill wedi mynd adref, i ymarfer fy sgiliau.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Dechreuais fel y rhan fwyaf o blant heddiw, yn yr ysgol gynradd. Fe wnaeth fy Mhennaeth, Mr Thomas, fy nghynnwys mewn chwaraeon o oed cynnar ac roeddwn yn chwarae pob camp dan haul bron - athletau, rygbi, pêl droed, criced, popeth! Roedd yr ysgol ar draws y ffordd i dy fy rhieni ac felly byddwn yn aros ar ôl yn aml pan oedd y plant eraill wedi mynd adref, i ymarfer fy sgiliau.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Popeth! Rygbi, criced, pêl droed, athletau, hyd yn oed rownderi! Unrhyw beth oedd yn fy nhynnu allan o’r ty ac allan i’r awyr iach!
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Mae’n hwyl! Rwy’n meddwl bod chwaraeon yn rhan bwysig iawn o dyfu i fyny. Mae’n dysgu cydsymudiad i chi, yn meithrin hunanhyder ac yn rhoi cyfle gwych i chi wneud ffrindiau!
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Mae gen i drefn gaeth wrth ymarfer. Fe gewch hyd i mi yn aml iawn yn y gym. Rwy’n ceisio bwyta’n iach bob amser, yn enwedig ar noson cyn gêm, pryd byddaf yn bwyta llawer iawn o fwyd sy’n rhoi egni i chi, fel ffrwythau a llysiau. Dydw i erioed wedi teimlo bod cadw’n heini ac yn iach yn anodd. Mae’n rhan o ’mywyd bob dydd i ac rwy’n teimlo’n llawer gwell oherwydd hynny!
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Roedd fy nhad yn fowliwr gyda Morgannwg a Lloegr fel fi ac felly roedd yn ysbrydoliaeth fawr iawn i mi. A dweud y gwir, fy nghariad cyntaf i oedd pêl droed ac fe gefais dreialon gyda chlwb pêl droed Leeds United ond yna collais ddiddordeb a dechrau chwarae criced ac roeddwn wrth fy modd o’r diwrnod cyntaf. Fe ddois yn broffesiynol yn ddwy ar bymtheg oed ac rwyf wedi bod yn chwarae ers 8 mlynedd bellach. Rwy’n cofio gwylio bowliwr De Affrica, Allan Donald, pan oeddwn yn ifanc ac mae o wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi drwy gydol fy ngyrfa. Roeddwn yn hoffi popeth amdano fo ac, fel fy nhad, fe wnaeth o fy ysbrydoli i chwarae criced.
Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?
Mae’n aruthrol bwysig. Mae’n bwysig cael rhieni a phlant i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rwy’n siwr ei fod yn deimlad ffantastig iddyn nhw, yn gwylio eu plant yn datblygu eu sgiliau ac yn gweld eu cynnydd. Mae chwaraeon yn rhywbeth i’r teulu! Pan oeddwn i’n ifanc, byddai Mam a Dad yn mynd â mi i bob man, er mwyn i mi allu chwarae pêl droed neu griced – ac mae gen i lawer i ddiolch iddyn nhw am hynny. Ar ddiwedd y dydd, y plant yma ydi sêr y dyfodol a gyda chynlluniau fel Campau’r Ddraig i’w helpu ar eu taith, mae dyfodol chwaraeon Cymru’n edrych yn un disglair iawn!
















