Enw: Steve James
Chwaraeon : Criced

Mae Steve yn cyn gapten o dîm criced Morgannwg a batwr disglair dros ben.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais gymryd rhan mewn chwaraeon pan aeth fy rhieni â fi i'r clybiau rygbi a chriced lleol yn Lydney, ble cefais fy magu. Dwi'n meddwl 'mod i'n mynd yno pan oeddwn i yn fy mhram ac yn ymuno yn yr hwyl pan oeddwn yn ddigon hen.
Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Chwaraeais rygbi a chriced yn bennaf, ac ychydig o bêl droed, ond dim llawer.
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau'r teimlad o undod a geir mewn chwaraeon tîm, a'r hapusrwydd o gyd-rannu llwyddiant. Hefyd y pleser o gymryd rhan mewn rhywbeth sydd wrth eich bodd ac yn eich cadw'n iach!
Sut yr ydych yn cadw'n iach a heini?
Drwy gymryd rhan mewn chwaraeon i ddechrau ond dwi hefyd yn treulio llawer o amser yn y gym, naill ai'n codi pwysau neu'n gwneud ymarferion cardiofasgiwlar. Pur anaml fyddai'n mynd am ddeuddydd heb wneud rhywbeth - ac eithrio nawr, pan nad ydw i'n gallu gwneud dim byd oherwydd llawdriniaeth ar fy mhen-glin. Mae'n fy lladd!
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Ar wahân i'm rhieni, dyn o'r enw Graham Burgess a oedd yn gyn-chwaraewr gyda Gwlad yr Haf ac yn fy hyfforddi yn yr ysgol yn Nhrefynwy.
















