|
17.11.2005
BWS MAWR COCH YN ABER |
| | |
Teithiodd bws coch, sy’n draddodiadol gysylltiedig â Llundain, i Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf i ddathlu degfed pen-blwydd y Loteri Genedlaethol.
Gan fod cynllun ‘Campau’r Ddraig’ yn cael ei noddi gan y Loteri Genedlaethol, cyflwynodd disgyblion a Ysgol Craig yr Wylfa, yn y Borth, arddangosfa a beth o’r gwaith a wnaed ganddynt fel rhan o’r cynllun.
Roedd hyn yn groeso addas iawn i’r bws. Ac ar y cerbyd roedd toreth a wybodaeth am gynlluniau a allasai ddenu cefnogaeth ariannol. Roedd swyddogion ar gael i gyflwyno gwybodaeth.
Mwynhaodd y plant brynhawn difyr, a chyflwynwyd crysau iddynt i gofio’r achlysur. |
| | |
|
|
|
|