Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Newyddion > Archif > Campau'r Ddraig yn ceisio cael Cymru i fod yn fwy

08.11.2005

CAMPAU'R DDRAIG yn CEISIO CAEL CYMRU i FOD yn FWY EGNïOL.

 
Mae cynllun Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru wedi uno gyda chyfres ar ITV Wales i gael mwy o blant i gymryd rhan a mwy o oedolion i wirfoddoli. Yn cael ei darlledu am 5:15pm ar ITV 1 Wales nos Sul y 13 o Dachwedd, mae’r rhaglen yn rhoi sylw i blant a chwaraeon y tu allan i oriau ysgol, er mwyn canu clodydd y manteision oes a berthyn i ymarfer a pha mor werthfawr yw gwirfoddoli.

Wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol, mae cynllun Campau’r Ddraig yn cynnig cyfleoedd y tu allan i wersi AG i blant ysgolion cynradd. Gyda saith camp i ddewis o’u plith - athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, rygbi a thenis - mae Campau’r Ddraig yn cynnig cyfleodd sy’n gallu helpu i drawsnewid plant yn unigolion egnïol.

Gall diffyg ymarfer arwain at nifer o broblemau iechyd difrifol eraill, o’r clefyd siwgr i afiechyd ar y galon, o asthma i osteoporosis – ac efallai na fydd y rhain yn ymddangos nes eu bod yn hyn. A chan fod gordewdra ymhlith plant yn cael llawer o sylw yn y newyddion y dyddiau hyn, does dim amser gwell i blant fod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Ond er ei bod yn bwysig i gael plant i gymryd rhan, mae gan rieni ran allweddol i’w chwarae hefyd ac nid oes raid iddynt sefyll ar y llinell ochr. Gyda chyfoeth o brofiad, mae torchi eu llewys a chymryd rhan yn y gweithgareddau’n gosod esiampl ddelfrydol i blant ei dilyn. A chan fod plentyn egnïol yn fwy tebygol o fod yn oedolyn egnïol, mae’n bwysig meithrin arferion iach o oed cynnar – yn yr ysgol a gartref – er mwyn atal yr arfer o anweithgarwch.

A does dim rhaid i chi ragori mewn chwaraeon i gymryd rhan. Gall y profiadol a’r dibrofiad fel ei gilydd dderbyn hyfforddiant a chefnogaeth lawn. Gallwch fod yn hyfforddi ar y cae neu’n codi arian y tu ôl i’r llenni, mae gwasanaeth pawb yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu chwaraeon a chadw plant yn egnïol.

Meddai Anne Hamilton, y Pennaeth ar gyfer Pobl Ieuainc Egnïol:

“Er mai’r prif nod yw cael mwy o’n plant ysgol yn egnïol, a gwella’r ddarpariaeth chwaraeon, ’all hyn ddim digwydd heb gefnogaeth rhieni ac athrawon. Mae chwaraeon yn ffordd ddelfrydol o dreulio amser gyda’ch gilydd fel teulu ac mae cymryd rhan yn gosod esiampl wych i blant. Mae dyfodol y genedl yn nwylo ein plant, felly mae’n braf iawn gweld Wales on the Move yn cefnogi cynllun Campau’r Ddraig.”

Mae’n rhaid gosod chwaraeon ac ymarfer wrth galon bywyd Cymru os am greu cenedl iachach. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi arwain y ffordd drwy gyhoeddi strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, 'Dringo’r Uwch', sy’n ceisio annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden egnïol.

Ers ei lansio fis Hydref 2000, mae Campau’r Ddraig wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl. Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 1265 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun ledled Cymru, sy’n llawer uwch na’r targed gwreiddiol o gael hanner holl ysgolion cynradd Cymru i gymryd rhan erbyn 2005. Mae’r cynllun yn ehangu o hyd ac mae angen mwy o rieni a chynorthwywyr i gefnogi’r twf. Mae croeso i bawb, yn cynnwys rhieni, myfyrwyr, staff ysgol, teidiau a neiniau ac aelodau eraill y teulu.

Yn gobeithio ychwanegu at nifer y gwirfoddolwyr – gyda chymorth Wales on the Move – mae Campau’r Ddraig yn ceisio sefydlu mudiad gwirfoddoli mawr ledled y wlad.

ASTUDIAETHAU ACHOS Y GOGLEDD

YSGOL GYNRADD LLANDRYGARN, LLANGEFNI, YNYS MÔNCyswllt: Miss Richards (Pennaeth)
Ffôn: 01407 720438

Cydlynydd Campau’r Ddraig: Helena Burrows 01248 752 037

Gan fod yr adnoddau dysgu sydd ar gael i’r ysgol yn brin, roedd sesiynau gweithgarwch corfforol allgyrsiol yn anodd eu cynnal. Fodd bynnag, wedi trafodaeth yng nghyfarfodydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon (CRhA), mae plant Ysgol Llandrygarn yn elwa yn awr o glybiau Campau’r Ddraig rheolaidd ar ôl ysgol, yn cael eu trefnu a’u rhedeg gan rieni a llywodraethwyr cymwys, yn hytrach nag athrawon.

YSGOL GYNRADD ACREFAIR, WRECSAM
Cyswllt: Richard Jones (Pennaeth)
Ffôn: 01978 820 616

Cydlynydd Campau’r Ddraig: Myra Redman 01978 317 695

Yn Ysgol Gynradd Acrefair, anogir disgyblion Blwyddyn 6 i recriwtio disgyblion Blwyddyn 3 i gymryd rhan mewn gweithgareddau Campau’r Ddraig trefnus.

Cynhelir gweithgareddau Campau’r Ddraig ar y buarth chwarae yn ystod amser cinio ac maent wedi llwyddo i dargedu’r plant nad ydynt yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgarwch corfforol, neu’r rhai a oedd yn methu mynychu clybiau ar ôl ysgol.

CLWB ATHLETAU GLANNAU DYFRDWY, COLEG GLANNAU DYFRDWY, CEI CONNAHCyswllt: Denise Harris (Ysgrifenyddes) 01244 548 656
Cydlynydd Campau’r Ddraig: Sian Williams 01352 702 467

Mae hyfforddwyr Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy a Chydlynydd lleol Campau’r Ddraig wedi datblygu rhaglen athletau allgyrhaeddol yn creu gwell cysylltiadau rhwng y clwb ac ysgolion lleol yr ardal.

Ar gyfer y plant sy’n ystyried y cam o athletau yn yr ysgol i athletau mewn clwb fel cam rhy fawr, mae Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy wedi sefydlu clybiau lloeren mewn ysgolion yn yr ardal o amgylch, gyda’r hyfforddwyr cymwys yn gallu meithrin perthnasoedd ac adnabod talent o oed ieuanc mewn sesiynau ar ôl ysgol. Mae’r plant yn gallu datblygu’r dalent hon mewn awyrgylch cyfarwydd ac yn y diwedd, symud ymlaen i lefel clwb gan ddefnyddio sesiynau lloeren Campau’r Ddraig fel carreg gamu yn y broses.

ASTUDIAETHAU ACHOS y DE

YSGOL GYNRADD CRAIG-Y-RHACCA, MACHEN, CAERFFILI Cyswllt: Mrs Lynette Jones
Ffôn: 029 2085 2516

Arweinydd Gwirfoddol y Clwb: Rob Bailey 07990 841 304
Cydlynydd Campau’r Ddraig: Hannah Mawson 01443 863 264

Cysylltodd un rhiant, Rob Bailey, â’r ysgol gyda llu o syniadau i annog gweithgarwch ar ôl ysgol ar gyfer y disgyblion. Bellach, mae’n cynnal pedwar clwb chwaraeon, gan ddarparu cyswllt i’r plant allu cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol. Mae hefyd yn recriwtio ei wirfoddolwyr ei hun o blith y disgyblion hyn yn yr ardal, i gynorthwyo gyda’i ymgais i sicrhau mwy o weithgarwch allgyrsiol yn ardal Machen.

YSGOL GYNRADD HYWEL DDA, ELÁI, CAERDYDD Cyswllt: Phil Rees
Ffôn: 029 2059 1593

Cydlynydd Campau’r Ddraig: Yvonne Hughes 07976 056151

Mae’r cynllun hwn gan Gampau’r Ddraig yn cynnig hyfforddiant ar y safle i rieni a gwirfoddolwyr sy’n dymuno cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu sesiynau ar ôl ysgol i ddisgyblion Ysgol Hywel Dda. Gofynnwyd i’r gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi o awr gydag arweinydd cymwys cyn gweithio gyda’r plant.

Am wybodaeth bellach am Gampau’r Ddraig yn eich ardal chi, a sut i wirfoddoli, cysylltwch â Chydlynydd Campau’r Ddraig yn eich awdurdod lleol neu ewch am dro i www.campaudraig.co.uk

Cyhoeddwyd gan Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru
Ffôn: 029 2033 8273
lynette.evans@scw.co.uk
 

Yn Ol   Top