© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Athletics Heroes

Enw: Darren Campbell
Chwaraeon : Sbrintiwr Athletau

Enillodd Darren fedal aur yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004 fel rhan o’r ras gyfnewid 400m. Hefyd, cipiodd yr arian yng Ngemau Olympaidd Sydney yn y 200m.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Yn yr ysgol gynradd.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn cymryd rhan ym mhob camp - badminton, tenis, pêl droed. Dechreuais redeg pan oeddwn yn 5. Wedi i fy Mam fy ngweld yn rhedeg ar ddiwrnod chwaraeon yr ysgol, aeth â mi i lawr i’r clwb rhedeg lleol.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy’n mwynhau cystadlu ac rwy’n mynd allan yna i wneud fy ngorau. Hefyd, rwy’n hoffi’r ffaith nad ydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd mewn ras.

Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n bwyta bwydydd addas, yn yfed llawer o ddwr ac yn ceisio mynd i’r gwely’n gynnar.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Mae fy hyfforddwr, Linford Christie, wedi rhoi cymaint o gyngor i mi ynghylch gwella fy rhedeg. Mae Carl Lewis wedi bod yn eilun gen i erioed hefyd. Fodd bynnag, fy Mam wnaeth i mi ddechrau rhedeg drwy fynd â mi i’r clwb rhedeg.

Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich tyb chi ? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon yng Nghymru yn eich tyb chi?
Mae Campau’r Ddraig yn bwysig iawn. Mae gan Jamie Baulch a minnau blant ac rydym ein dau yn cefnogi’r cynllun yn llawn. Rwy’n meddwl mai’r gyfrinach yw annog i gymryd rhan ond heb wthio na gorfodi. Roedd fy mam yn rhagorol – roedd yn fy annog ond byth yn gwthio – byddai hynny wedi gallu gwneud i mi droi fy nghefn ar chwaraeon.