© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Athletics Heroes

Enw: Jamie Baulch
Chwaraeon : Athletau

Enillydd medal arian yn y ras gyfnewid 4 x 400m yng Ngemau Atlanta 1996. Hefyd, daeth yn Bencampwr Dan Do’r Byd yn y 400m yn 1999.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais yn yr ysgol gynradd ac yna yn un ar ddeg oed cymryd at y trac â'r cae.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Chwaraeais llwyth o chwaraeon - tennis, pêl droed, rygbi, criced, traws gwlad a trampolinio. Roeddwn yn hoffi campau unigol fel tennis yn arbennig.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Mae'n cadw fi'n heini, a mae yn hwyl.

Sut ydych chi'n cadwn heini ac yn iach?
Yn amlwg drwy wneud cymaint o chwaraeon ond hefyd drwy fwyta'n dda - rwyf yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau a ddim gormod o bethau melys.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni yn bennaf. Maent wedi bod yn gefn i mi erioed ac wedi fy nanfon i ble bynnag roeddwn eisiau mynd ac wedi cynnig cefnogaeth aruthrol. Maent yn dal i’m cefnogi ac maent wrth eu boddau yn y cystadlaethau mawr.

Pa mor bwysig mae Campau'r Ddraig? Pa effaith caiff ar chwaraeon yng Nghymru?
Mae Campau'r Ddraig yn bwysig dros ben. Bydd yn gwneud i blant sylweddoli bod chwaraeon yn gallu bod yn llawer o hwyl - ac yn llawer gwell na gemau fideo.