Enw: Tanni Grey-Thompson
Chwaraeon : Rasio Cadair Olwyn

Un o athletwyr mwyaf talentog Prydain, wedi ennill 11 medal aur Paralympaidd.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais yn yr ysgol - roeddwn bob amser yn mwynhau cymryd rhan mewn AG ac fe dyfodd o hynny. Ymunais a Chlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed ac fe gefais fy hyfforddi gan Roy Anthony.
Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Nofio, saethyddiaeth, tennis, pêl fasged, hoci dan do, athletau - pob dim!
Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau ymarfer. Rwy'n hoffi gwneud i mi fy hun weithio'n galed iawn fel 'mod i'n gallu gwella ac rwy'n mwynhau cystadlu - dyna un o'r pethau sy'n fy nghymell i ymarfer yn galed.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Rwy'n cofio gwylio Marathon Llundain yn y 1980'au a meddwl, dyna beth rydw i am ei wneud.
















