GM: ROWND Y CLOC
TREFN: Gwnewch wyneb cloc / gylch allan o gonau (yn ddelfrydol, bydd hwn yr un maint chylch canol, gan ddibynnu ar y gofod sydd ar gael). Marciwch 12, 3, 6 a 9 o'r gloch gyda chonau coch ar gweddill mewn glas.
Rhannwch eich disgyblion yn 4 grwp cyfartal a chael 1 grwp i fynd at bob un or conau cochion, gan sefyll mewn rhes sengl yn wynebur canol.
I bob un or grwpiau, y cn maent yn sefyll yn ei ymyl yw 12 or gloch ar un yn union ir chwith yw 1 o'r gloch, yr un gyferbyn, 6 o'r gloch, ac yn y blaen.
CHWARAER GM: Maer athro / disgybl yn galw rhif rhwng 1 a 12. Fel grwp cyfan, maer disgyblion yn cerdded / rhedeg mewn rhes sengl drwy ganol y cylch. Gan osgoir grwpiau eraill, maent yn mynd o amgylch y cn a enwyd ac yn dod yn l iw man cychwyn. Maer person yn y tu blaen yn mynd ir cefn ar gm yn mynd yn ei blaen nes bod pawb wedi arwain.
AMRYWIAETHAU:
Amrywiwch yr arddull ar cyflymdra.
Cyflwynwch ddarn o offer perthnasol ir gm rydych ar fin ei chwarae, fel driblo pl droed. Gwnewch y ras yn ras gyfnewid gydag un person ar y tro yn mynd o amgylch y cn gan dipio ei gyd-aelod or tm neu basio pl yn l iddo nes bod pawb wedi cael tro.
Cofiwch ddal i amrywior conau wedi i bob grwp / person gael ei dro.
Cyflwynwch newid fel bod y chwaraewyr yn mynd rownd y tu allan ir cylch ac yn l drwyr canol (gydar bwriad o gyflwyno 1 neu 2 o chwaraewyr yn tipio / amddiffynwyr fel gwrthwynebwyr goddefol i ddechrau).
Meddai Draig: Cofiwch ddechrau cynhesun araf bob amser ac adeiladun raddol! |