|
GEMAU PARASIWT
DAL PÊL Hanner y grwp yn dal y parasiwt ar hanner arall yn sefyll mewn cylch o'i amgylch. Mae pêl ar y parasiwt a'r nod yw taflu'r bêl gan ddefnyddio dim ond y parasiwt at y plant y tu allan fel eu bod yn gallu ei dal. Os ydynt yn dal y bêl, gallant gydio yn y parasiwt wedyn.Pa mor gyflym allwch chi gael pawb yn cydio yn y parasiwt ?
CATH A LLYGODEN Mae gennych un plentyn dan y parasiwt (y llygoden) ac mae'r plant eraill i gyd yn eistedd ar y llawr yn cydio yn ymyl y parasiwt. Yna rydych yn dewis plentyn (y gath) i fynd ar ben y parasiwt ac mae'n rhaid iddo geisio dal y llygoden. Mae'n rhaid i'r plant sy'n cydio yn ymyl y parasiwt geisio helpu'r lygoden drwy ysgwyd y parasiwt i guddio ble mae'r lygoden. Mae'n rhaid i'r plant dynnu eu hesgidiau i chwarae'r gêm yma!
SIARCOD Mae pawb yn cydio yn ymyl y parasiwt ac yn eistedd gyda'u coesau oddi tano. Dewiswch un plentyn (y Siarc) i fynd dan y parasiwt. Yna rydych yn dechrau dweud stori wrthynt am y môr, am gychod, am y tywydd etc. ac mae'r plant yn symud y parasiwt fel sy'n briodol i'r stori. Yna bydd y siarc yn symud o amgylch dan y parasiwt ac yn tynnu plant ato dan y parasiwt yn ddi-rybudd a byddant hwythau wedyn yn troi'n siarcod.
PAN CHWYTHA'R GWYNT Mae pawb yn cydio yn y parasiwt ac yn sefyll ar eu traed. Yna rydych yn holi cwestiwn ac yn codi'r parasiwt mor uchel ag y gallwch ac mae'n rhaid i unrhyw un y mae'r cwestiwn yn berthnasol iddo fynd dan y parasiwt a newid lle gyda rhywun arall, e.e. unrhyw un a chwaraeodd bêl droed neithiwr, unrhyw un a gafodd dôst i frecwast.
AMSER STORI Mae pawb yn eistedd dan y parasiwt i wneud cuddfan a gallwch adrodd neu greu straeon.
Ewch am dro i www.funandgames.org/parachute_games.html |