Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Amdanom Ni > Campau’r Ddraig

Beth yw Campau'r Ddraig?
 

Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw Campau'r Ddraig a'i diben yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7 - 11 oed.

Gan weithio'n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau'r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gyfranogiad chwaraeon drwy annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.

Nod y cynllun yw ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnwys y plant nad ydynt yn cael cyfleoedd o'r fath ar hyn o bryd y tu allan i'w gwersi AG yn yr ysgol.

Mae Campau'r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant, yn datblygu eu sgiliau ac yn cynnig cystadlaethau priodol iddynt gan ddefnyddio fersiynau o gemau oedolion wedi'u haddasu i ddiwallu eu hanghenion a'u lefel sgiliau.

Defnyddir portffolio o wyth o chwaraeon wedi'u haddasu yn y cynllun. Yr wyth camp yng Nghampau'r Ddraig yw rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, tennis a golff.

Tra bo ffocws pennaf Campau'r Ddraig ar wella'r ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer plant 7 -11 oed ledled Cymru, mae Campau'r Ddraig hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon ar ôl ysgol a rhai cymunedol.

  Draig


Cysylltiadau
 

www.lotterygoodcauses.org.uk