Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Gwirfoddoli a Hyfforddi > Hyfforddi > Meddwl am Hyfforddi > Beth sy'n gwneud hyfforddwr da?

Beth sy'n gwneud hyfforddwr da?

Os ydych yn meddwl am roi cynnig ar hyfforddi, mae'n werth ystyried rhai pethau.

Cofiwch - mae'n rhaid bod yn amrywiol a hwyliog i ddiwallu anghenion plant.

Eich Adnabod Eich Hun
Pam ydych chi eisiau bod yn hyfforddwr a beth ydych eisiau ei gyflawni?

Technegau chwaraeon
Po fwyaf rydych yn ei ddeall ar dechnegau a sgiliau chwaraeon, po fwyaf medrus fyddwch chi wrth ddysgu'r rhain i blant.

Bod yn Bositif
Mae amynedd a chanmoliaeth yn gweithio'n llawer gwell na beirniadaeth a gweiddi.

Amrywiaeth yw'r allwedd
Dylech osgoi gemau lle mae plant yn gorfod aros eu tro a pheidiwch â gwneud eich sesiynau i gyd yn gystadleuol.

Dysgu sgiliau ac arddangos
Mae arddangos sgil yn gweithio'n llawer gwell na siarad amdani. Os na allwch chi wneud hynny, mae'n rhaid i chi gael hyd i rywun sy'n gallu.

Cynnwys pawb
Gwnewch yn siwr bod digon o offer a chit ar gael ar gyfer pawb. Ffurfiwch grwpiau bychain o blant yn hytrach nag un mawr.

Cyfathrebu'n dda
Mae gweithredu'n fwy effeithiol na geiriau. Mae iaith y corff yn bwysig a gwenu a symudiadau positif yn gwneud rhyfeddodau.

Y meddwl a'r corff
Mae deall sut mae'r corff yn ymateb i ymarfer a hyfforddiant a'r gallu i fabwysiadu arferion diogel ac atal anafiadau yn bwysig. Felly hefyd creu hyder, gosod nodau, rheolaeth emosiynol, sgiliau canolbwyntio - mae hyfforddwyr yn gweithio ar y meddwl yn ogystal a^'r corff.

Synnwyr a sensitifrwydd
Mae rhai plant yn cymryd mwy o amser nag eraill i ddysgu felly bydd raid i chi addasu yn unol â hynny. I gymell y plant yn gyson, mae'n rhaid gosod nodau cyraeddadwy a rhoi adborth rheolaidd.

Gweithio o'r brig
Mae'n rhaid arwain drwy esiampl ac ennyn ffydd a pharch. Mae hyfforddwyr plant yn fodelau rôl ac mae hyn yn gyfrifoldeb mawr. Mae eich ymddygiad, eich gwisg a'ch agwedd i gyd yn gosod esiampl. O gadw at safonau uchel yn gyson, bydd y plant yn eich efelychu.

 

Yn ôl