Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Gwirfoddoli a Hyfforddi > Gwirfoddolwyr > Tasgau Gwirfoddoli

Tasgau Gwirfoddoli
 

Boed yn olchi'r cit, cludo plant i gemau neu ofalu am gyfrifon y clwb, gallwch helpu mewn sawl ffordd. Ac nid dim ond y tm a'r plant sy'n elwa. Gall gwirfoddoli fod yn gymdeithasol iawn gan gynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r rhan fwyaf o glybiau chwaraeon yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac maent angen pob math o gymorth i'w helpu i redeg yn esmwyth.

Does dim rhaid i chi fwynhau chwaraeon
Mae llawer o glybiau'n awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr gydag amrywiaeth o brofiadau a sgiliau. Efallai y gallwch helpu gyda:

  volunteering roles

 
  • Arlwyo - O dywallt diodydd hanner amser i baratoi brechdanau ciwcymber ar gyfer y cinio criced.
  • Cynnal a Chadw - Ct newydd o baent i'r clwb neu helpu i wneud y cae'n fwy gwastad.
  • Cludiant - Mae angen danfon y plant i wahanol lefydd. Efallai fod sefydlu pwl cludiant yn syniad, fel bod pawb yn rhannu'r baich.
  • Glanhau - Tasg ddiflas, ond mae'n rhaid i rywun ei gwneud!
  • Helpu i hyfforddi - Efallai fod angen gosod offer; mae hyfforddwyr angen help i redeg sesiynau bob amser.
  • Gweinyddu - Pwy sydd ar gael ar gyfer y gm nesaf? Gallech drefnu'r cyfan dros y ffn neu drwy e-bost. Ydi'r tm angen cofrestru gyda chynghrair? Efallai y gallwch chi ysgrifennu'r llythyr.
  • Cyllid - Ydi ffi danysgrifio'r gynghrair wedi'i thalu? A oes angen rhoi arian i'r naill ochr ar gyfer trip arbennig? Gall y mathemategwyr yn eich plith helpu.
  • Codi Arian - Allwch chi drefnu nawdd ar gyfer y tim drwy eich gwaith? Allwch chi redeg gweithgareddau fel gemau noddedig neu arwerthiannau cist car? Mae clwb chwaraeon angen cymorth gyda'r ceiniogau bob amser.

Felly dewch yn eich blaen, gwirfoddolwch i helpu.
Meddyliwch beth allwch chi ei wneud a chysylltwch Chydlynydd lleol Campau'r Ddraig i weld allwch chi helpu.

Cliciwch yma am - Gyngor ar Recriwtio a Chadw Gwirfoddolwyr

 

Yn l   Top