Sut gall Rhieni helpu gyda Champau'r Ddraig?
Nid yw helpu'n golygu rhoi oriau ac oriau o'ch amser o angenrheidrwydd. Mae pawb i'w weld mor brysur y dyddiau hyn ond eto rydym am i blant ddatblygu i fod yn oedolion iach. Mae gan chwaraeon ran hanfodol i'w chwarae yn y datblygiad hwn.
Efallai nad yw rhai rhieni'n rhagori mewn chwaraeon ac efallai nad ydynt yn teimlo bod ganddynt y cymwysterau priodol, ond does dim raid i Gynorthwywyr y Ddraig fod yn hyfforddwyr cymwys i helpu. Gallant helpu mewn ffyrdd eraill, fel: |
| |
|
| |
- Darparu cludiant
- Golchi'r cit
- Llenwi'r gofrestr
- Gofalu am arian y clwb
- Annog a chymeradwyo o'r llinell ochr
|
|
I ddatblygu clybiau ar l ysgol, mae angen cynorthwywyr i helpu gyda rhedeg y sesiynau hefyd wrth gwrs, i fod yn rheolwyr timau, yn hyfforddwyr neu'n ddyfarnwyr.
Sut mae cymryd rhan? |
| |
|
| |
- Holwch hyfforddwr clwb eich plentyn os oes modd i chi helpu gyda'r clwb ar l ysgol.
- Ymateb i geisiadau gan glybiau Campau'r Ddraig pan fydd eich plant yn dod hwy adref.
|
|
Am wybodaeth bellach am Gampau'r Ddraig, cysylltwch 'ch Cydlynydd lleol. Ceir manylion cyswllt llawn y Cydlynwyr i gyd ar y dudalen Cysylltu ni. |
| |
|
|
|
|