Eich swyddogaethau ach cyfrifoldebau Fel rhiant, rydych yn gyfrifol am sawl agwedd ar gyfranogiad eich plentyn mewn chwaraeon. Dylech ei annog, ond nid pwyso arno i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Her newydd? Os yw eich plentyn yn dechrau colli diddordeb, holwch pam a meddyliwch am ffyrdd o ailennyn y diddordeb hwnnw. Efallai ei fod angen her newydd. Drwy annog eich plant i roi cynnig ar chwaraeon newydd, byddant yn teimlo mai hwy syn rheoli.
Mae digon o chwaraeon ar gael, felly os nad ydynt yn rhy hoff o bl fasged, efallai fod athletaun fwy priodol.
Holl ddiben cymryd rhan mewn chwaraeon yw cael hwyl a dysgu sgiliau newydd.
Cefnogaeth emosiynol Po fwyaf fydd plentyn yn cymryd rhan, po fwyaf o gefnogaeth fydd ei angen gennych chi. Os yw eich plentyn o ddifrif am chwaraeon, bydd dan straen weithiau; bydd angen eich help chi bryd hynny.
Gall chwaraeon greu emosiynau dwfn iawn, fel gorfod ymdopi cholli, neur cyffro ar adrenalin a deimlir wrth ennill. Efallai mai dymar tro cyntaf ich plentyn brofir teimladau hyn, ond nid y tro olaf mae chwaraeon yn lle da i gychwyn. Rhowch gymaint o gefnogaeth ag y bo modd iddynt drwy fynd i gymaint ag y gallwch ou gemau au cystadlaethau byddant yn gwerthfawrogir ffaith eich bod yno.
Byddwch yn rhan o bethau Os yw eich plentyn angen eich cefnogaeth, gwnewch yn siwr eich bod wrth law iddo. Neu gwell fyth, beth am ddechrau gwirfoddoli eich gwasanaethau, neu ddechrau hyfforddi. Byddwch mewn sefyllfa well o lawer iw helpu.
Chwaraer gm Unwaith mae eich plant yn dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon, mae mwy o straen, fel paratoi ar gyfer treialon, ennill a cholli, gwneud yn dda gydar hyfforddwr ac aelodau eraill y tm. Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o beth syn digwydd.
Cael eich dewis ar gyfer y tm Mae hyn yn gallu bod yn anodd i blant ar adegau ac i chi. Os yw eich plentyn yn dechrau poeni beth maer hyfforddwr yn ei feddwl ohono, gan gymharu ei berfformiad gydag aelodau eraill y tm, gall deimlo dan straen.
Maen rhaid i chi ei atgoffa i ganolbwyntio ar ei allu ei hun. Gosodwch nodau iddo a siarad am y ffyrdd ou cyrraedd.
Cofiwch ei atgoffa nad yw methu mewn un treial ddim yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd y tro nesaf.
Cyfleu neges briodol Does neb yn hoffi colli, dylid atgoffa plant mai sut rydych yn chwarae syn cyfrif. Gall cwestiynau fel ddaru chi ennill? a wnes di sgorio? wneud ich plant deimlon fethiant. Canolbwyntiwch ar gynnal hyder eich plentyn. Gofynnwch iddo ddaru o fwynhau chwarae a sut allent fod wedi gwneud yn well.
Yn bwysicach na dim, gofynnwch ich plentyn gafodd o hwyl.
Cymysgun dda gydar tm Efallai mai dymar tro cyntaf ich plentyn fod yn rhan o dm; dylech ei annog i ddod i adnabod yr aelodau eraill. Maer un peth yn wir am eich perthynas chi gydar hyfforddwr ar rhieni eraill.
Mae gennych nodau gwahanol i gyd: rydych chi yn poeni am berfformiad eich plant chi, ar rhieni eraill am eu plant hwy, ar hyfforddwr am y tm yn gyffredinol.
Os bydd yr hyfforddwr yn gwneud penderfyniad syn eich gwneud yn anfodlon, peidiwch chodi helynt oher
Rhowch gynnig ar hyfforddi eich hun! |