Pam fod plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon?
Mae'n amlwg dydi? Mae plant yn chwarae am eu bod eisiau cael hwyl a mwynhau eu hunain. Ond nid dyna'r unig reswm.
Mae'n rhoi hyder iddyn nhw Ac maent yn teimlo rhyw synnwyr mawr o gyflawni. I lawer o blant, chwaraeon yw eu cyfle hwy i ddisgleirio, ond gall eraill deimlo'n israddol iawn. Felly cofiwch wneud yn siwr mai'r gamp mae eich plentyn yn ei chwarae yw'r un fwyaf addas i chi.
Chwaraewr tm Mae plant yn hoffi teimlo'n rhan o dm ac mewn chwaraeon maent yn gallu bwydo oddi ar egni a brwdfrydedd aelodau eraill eu tm. Mae'n gallu eu tynnu allan o'u cragen.
Nid ennill yw popeth Mae chwaraeon yn gyffrous iawn. Ond dydi pob plentyn ddim eisiau ennill. Tra bo rhai plant yn mwynhau cystadlu, mae'n gwneud eraill yn swil. Felly peidiwch 'u gwthio! Fe all ddychryn eich plentyn a gwneud iddo gymryd yn erbyn chwaraeon yn llwyr. Os yw eich plant yn mwynhau ennill, edrychwch a oes cystadlaethau iddynt gymryd rhan ynddynt yn erbyn plant yr un oed.
Cofiwch sicrhau cydbwysedd rhwng chwaraeon a chwarae. |