|
Er mai prif ffocws Campau'r Ddraig yw gwella'r ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer plant 7 i 11 oed, mae Campau'r Ddraig hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio rhieni fel cynorthwywyr i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon ar l ysgol a chymunedol, a elwir yn Glybiau Campau'r Ddraig.
Mae gan famau, tadau ac athrawon gyfoeth o sgiliau a gall Campau'r Ddraig gynnig cyfle i roi'r rhain ar waith drwy gyfrwng chwaraeon, tra'n cael hwyl gyda'r plant. Yn hytrach na'u gollwng mewn clwb chwaraeon, rydym am weld y rhieni yn torchi eu llewys ac yn rhoi cynnig ar helpu gyda'r gweithgareddau.
Mae trefnu chwaraeon teuluol yn gyfle gwych i dreulio amser adeiladol a gwerthfawr gyda'r plant hefyd.
Cymharwch awr o chwaraeon gydag awr o wylio'r teledu - dim ond chwaraeon sy'n gwella sgiliau cyfathrebu, ffitrwydd ac iechyd.
Does yr un rhiant am weld ei blentyn yn tyfu i fyny i fod yn ddiogyn yn byw a bod ar y soffa - dyma gyfle delfrydol i rieni ddysgu arferion iach i'w plant o oed cynnar a gwneud pob plentyn yng Nghymru'n gryfach a mwy heini. Oes gwell cychwyn i'w roi i'ch plentyn?
Gwirfoddolwyr Mae gwirfoddolwyr presennol Campau'r Ddraig wedi sn am y pleser a'r boddhad maent yn ei gael o weld y plant yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael hwyl. Mae llawer o'r gwirfoddolwyr wedi dod yn hyfforddwyr cymwys hefyd ac maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at chwaraeon yn eu cymunedau.
Bydd cynyddu nifer y gwirfoddolwyr yng Nghampau'r Ddraig yn galluogi i fwy o blant gymryd rhan yn y clybiau. Bydd hefyd yn galluogi i rieni, athrawon, myfyrwyr a gwirfoddolwyr eraill dderbyn hyfforddiant a gwneud cyfraniad gwerthfawr at chwaraeon.
Fyddai chwaraeon ddim yn digwydd oni bai fod rhieni, athrawon a phobl eraill yn fodlon rhoi o'u hamser i drefnu chwaraeon ar gyfer plant. Gwirfoddolwyr yw'r allwedd i ddatblygu chwaraeon yng Nghymru.
Cliciwch yma am - Gyngor ar Recriwtio a Chadw Gwirfoddolwyr |
|
 |