Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Gwirfoddolwyr > John Pritchard
Yn l
John Pritchard

Enw :
John Pritchard
Gwirfoddolwr


Dysgu'n Arwain at Lwyddiant Mewn Chwaraeon

Mae cyflawniadau dysgu John Pritchard wedi ei alluogi i wneud cyfraniad mawr at chwaraeon ledled Ynys Mn.

Yn wirfoddolwr ers amser maith eisoes gyda Chlwb Pl Droed Amlwch, pan lansiwyd menter Campaur Ddraig yn 2000, cymerodd ran ar unwaith, gan gynnal sesiynau ar gyfer bechgyn a genethod ac, yn bwysicach fyth, darbwyllodd nifer o rieni eraill i helpu hefyd.

Bellach mae gan Glwb Pl Droed Amlwch dm o wirfoddolwyr, diolch i ymdrechion John. Dangosodd ei enw da am recriwtio a chefnogi cynorthwywyr y clwb bod ganddor sgiliau naturiol sydd eu hangen ar gyfer mentora gwirfoddolwyr eraill Campaur Ddraig. Felly, pan roddodd y gorau iw fusnes ei hun, cafodd ei recriwtio gan yr uned ddatblygu chwaraeon i weithio fel mentor gyda rheini syn sefydlu clybiau newydd dan faner Campaur Ddraig.

Wrth i John fagu mwy o hyder yn ei swydd, dechreuodd dderbyn hyfforddiant mewn campau eraill a nawr maen gweithio gyda llawer o rieni ac ysgolion cynradd, yn dysgu a mentora mewn pl droed, athletau a thri-golff.

Maen hyfforddi gydar academi bl droed leol ac yn rheoli tm Pl Droed Genethod Hŷn Gemaur Ynysoedd. Mae John yn arwain drwy esiampl ac wedi denu dau oi blant, Laura syn 22 oed a Griffith syn 18, at hyfforddi iw helpu ef.

Yn 2004, dechreuodd gynnal sesiynau pl droed rheolaidd ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig a nawr hefyd maen cydlynu ac yn trefnu cynlluniau chwarae Ynys Mn yn ystod y gwyliau, ar gyfer mwy na 200 o blant a 12 o staff.

Mae John yn mwynhau ei yrfa newydd yn y byd chwaraeon ir eithaf ac yn hoffi pob her maen gorfod ei hwynebu.

Maer newid gyrfa yma wedi golygu fy mod wedi gorfod addasu hen sgiliau, darganfod bod gen i sgiliau nad oeddwn yn gwybod amdanynt a datblygu amrywiaeth o alluoedd newydd, meddai. Rwyf wedi dysgu sgiliau mewn gwahanol chwaraeon ac wedi cael cyfle i weithio gydag athletwyr anabl.

Ers ymuno Champaur Ddraig fel gwirfoddolwr, mae John wedi mynychu cyrsiau yn cynnwys hyfforddiant Campaur Ddraig, Arweinyddiaeth Chwaraeon, cymorth cyntaf, a hyfforddiant a chyrsiau arbenigol mewn chwaraeon penodol.

Mae cyflawniadau dysgu John wedi ei alluogi i ddatblygu o fod yn wirfoddolwr gyda Champaur Ddraig i fod yn mentora ac yn cydlynu rhaglenni chwaraeon ym mhob cwr o Ynys Mn. Ei nod nesaf yw hyfforddi i fod yn diwtor ar gyfer Campaur Ddraig ar Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon.

Yn l Top