|
|
|
|
Tra'n cymryd rhan yng Nghampau'r Ddraig, byddaf yn: | |
- Chwarae gan gadw at y rheolau
- Peidio chynhyrfu, waeth beth fydd yn digwydd
- Chwarae am hwyl
- Derbyn penderfyniadau'r swyddogion bob amser
- Ymateb i ennill a cholli gydag urddas
- Parchu fy ngwrthwynebwyr, hyfforddwr / athro, y swyddogion a chyd-aelodau fy nhîm
- Llongyfarch y tîm arall a diolch i'w chwaraewyr ar ddiwedd y gêm
| |
| |
|
Byddaf yn ysgwyd llaw a bod yn hapus, boed ennill neu golli!
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n ymroddedig i ddatblygu egwyddorion chwarae teg mewn chwaraeon a hybir y delfrydau hyn yn helaeth drwy gyfrwng Campau'r Ddraig. Hybir gweithgareddau CHWARAE TEG a CHYNHWYSOL yn gyson a'u cefnogi gyda'r adnoddau a pecynnau hyfforddi sy'n gysylltiedig â Champau'r Ddraig.
Am fanylion llawn a llyfryn i'w lwytho oddi ar y we am gynllun Chwarae Teg Cyngor Chwaraeon Cymru - menter ar y cyd gyda Chymdeithas Prydain o Ymgynghorwyr a Darlithwyr Addysg Gorfforol - er mwyn hybu chwarae teg ac ymddygiad chwaraeon da, ewch am dro i www.cyngor-chwaraeon-cymru.co.uk/chwaraeteg. |
| | |
|
|
|
| |