Campau'r Ddraig





Gwybodaeth i Oedolion
Croeso i Gampau'r Ddraig   E-bostio'r dudalem yma at ffrind Iaith
Cymraeg > Syniadau Da > Arall > David Davies
Yn l
  David Davies  

Neges :
"Mae Campau'r Ddraig yn pwysleisio y pwysigrwydd o ymarfer y corff yn rheoliadd fel rhan o ddull iachus o fyw."


Enw : David Davies
Chwaraeon : Nofio


Nofiwr a enillodd medalau Arian ac Efydd yng Ngemau Olympaidd Athens 2004 a Beijing 2008

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Ymunais a clwb nofio lleol y Bari ym saith mlwydd oed cyn ymuno a Clwb Nofio Dinas Caerdydd pan yn naw oed..

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Heblaw nofio dechreuais chwarae golff gyda fy nhad.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwy'n mwynhau yr agwedd gystadleuol o chwaraeon. Rwyf hefyd wedi cwrdd a phobl rhyfeddol a gwneud llawer o ffrindiau drwy nofio.

Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach?
Rwyf yn athletwr llawn amser a felly mae'r ymarfer yn aruthrol. Rwy'n ymarfer yn y pwll dwy waith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos ac yn nofio 80,000 medr bob wythnos. Mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn gorffwys digon ac yn cadw fy lefelau egni i fyny gyda bwydydd iach.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Mae fy hyfforddwr Dave Haller yn ysgogydd da ac yn cael y gorau allan ohonof.Mae gyda fi mewn pob sesiwn hyfforddi ac ar ochr y pwll am 5.00 o'r gloch y bore.


Pa mor bwysig yw Campaur Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru ?
Mae cyflwyno plant i chwaraeon mewn ffurf hwylus a phleserus yn golygu byddan yn fwy tebyg i ddal ati. Mae Campau'r Ddraig yn pwysleisio y pwysigrwydd o ymarfer y corff yn rheoliadd fel rhan o ddull iachus o fyw.

Yn l Top